Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pam y Pasg?Sampl

Why Easter?

DYDD 2 O 5

Pam fod arnom angen Iesu?



Iesu yw’r unig ddyn i ddewis cael ei eni erioed, ac yn un o’r ychydig rai ddewisodd i farw. Dwedodd mai'r holl reswm dros ddod, oedd, i farw drosom. Fe ddaeth e ‘er mwyn talu'r pris i ryddhau llawer o bobl’
(Marc 10:45).



Dwedodd Iesu ei fod wedi marw ‘drosom’ ni. Mae’r gair ‘drosom’; yn golygu ‘yn ein lle ni.’ Fe wnaeth e hyn am ei fod yn ein caru ni a ddim am i ni orfod talu’r gosb am yr holl bethau dŷn ni wedi’u gwneud o’i le. Ar y groes roedd yn dweud, mewn gwirionedd, ‘Wna i gymryd yr holl bethau yna arnaf i fy hun.’ Fe wnaeth e hyn drosot ti, a drosta i. Pe bai ti neu fi oedd yr unig berson yn y byd, byddai e wedi ei wneud droson ni. Sgwennodd Paul y geiriau hyn, ‘Mab Duw wedi bod yn ffyddlon, wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i’ (Galatiaid 2:20). Talodd y pris, drwy ei waed ar y groes, oherwydd ei gariad tuag atom.



Mae ‘talu’r pris’ yn dod o’r farchnad caethwasiaeth. Byddai person caredig yn prynu caethwas a’i ollwng yn rhydd - ond yn gyntaf roedd rhaid i’r pris cael ei dalu. Talodd Iesu drwy ei waed ar y groes, y pris i’n gollwng ni i gyd yn rhydd.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Why Easter?

Beth sydd mor bwysig am y Pasg? Pam fod yna gymaint o ddiddordeb am berson a anwyd 2000 0 flynyddoedd yn ôl? Pam fod cymaint o bobl wedi’u cynhyrfu gan Iesu? Pam fod ei angen e arnom ni? Pam wnaeth e ddod? Pam wnaeth e f...

More

Hoffem ddiolch i Alpha a Nicky Gumbel am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://alpha.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd