Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Pam y Pasg?Sampl

Why Easter?

DYDD 1 O 5

Pam fod arnom angen Iesu?



Ges ti a fi ein creu i fyw mewn perthynas â Duw. Nes byddwn ni’n ffeindio’r berthynas yna, bydd yna rywbeth wastad ar goll o’n bywydau. O ganlyniad, dŷn ni wastad yn ymwybodol o fwlch. Wnaeth un canwr roc ei ddisgrifio fel, ‘Mae gen i wacter o’m mewn.’



Mewn llythyr ataf i, sgwennodd menyw am ‘wacter dwfn dwfn’ o’i mewn. Siaradodd merch arall am ‘talp ar goll o’i henaid.’



Mae pobl yn ceisio llenwi’r gwagle yma mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai’n ceisio cau’r bwlch gydag arian, ond dydy hynny ddim yn eu bodloni. Dwedodd Aristotle Onassis, oedd yn un o’r dynion cyfoethocaf yn y byd, ar ddiwedd ei fywyd: ‘Dydy miliynau ddim wastad yn adio i fyny i beth mae dyn ei angen allan o fywyd.’



Mae eraill yn rhoi tro ar gyffuriau neu ormodedd o alcohol neu anfoesoldeb rhywiol. Dwedodd un ferch wrtho i, ‘Mae’r pethau hyn yn rhoi boddhad ar unwaith, ond wedyn yn eich gadael yn hollol wag.’ Ac eto mae rhai’n rhoi tro ar weithio’n galed, cerddoriaeth, chwaraeon, neu’n chwilio am lwyddiant. Mae’n siŵr nad oes dim o’i le ar y pethau hyn, ynddyn nhw eu hunain, ond dydyn nhw ddim yn bodloni’r newyn dwfn tu mewn i bob un bod dynol.



Dydy’r perthynas dynol agosaf, er gwaethaf pa mor hyfryd ydyn nhw, ddim ynddyn nhw eu hunain, yn bodloni’r ‘gwagle dwfn tu mewn.’ Wnaiff dim lenwi’r bwlch hwn, heblaw am y perthynas gyda Duw, y cawsom ein gwneud ar ei gyfer.



Yn ôl y Testament Newydd, y rheswm am y gwagle yw bod dynion a merched wedi troi eu cefnau ar Dduw.



Dwedodd Iesu, ‘Fi ydy'r bara sy'n rhoi bywyd’ (Ioan 6:35). Fe yw’r unig un all ddigoni ein newyn dyfnaf, gan mai e yw’r unig un sy’n gwneud hi’n bosibl i’n perthynas â Duw gael ei adnewyddu.



a) Mae e’n bodloni ein newyn am ystyr a phwrpas i fywyd.



Dim ond drwy berthynas â’n Creawdwr mae modd i ni ddod o hyd i wir ystyr a phwrpas ein bywydau.

b) Mae e’n bodloni ein newyn am fywyd tu hwnt i farwolaeth.



Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim eisiau marw. Dŷn ni’n hiraethu am gael bodoli tu hwnt i farwolaeth. Dim ond drwy Iesu Grist dŷn ni’n cael bywyd tragwyddol.


c) Mae e’n bodloni ein newyn am faddeuant.



Os dŷn ni’n onest byddai rhaid i ni gyfaddef ein bod i gyd yn gwneud pethau dŷn ni’n gwybod eu bod yn anghywir. Drwy ei farwolaeth ar y groes fe wnaeth Iesu hi’n bosibl i ni gael maddeuant a dod yn ôl i berthynas â Duw.

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Why Easter?

Beth sydd mor bwysig am y Pasg? Pam fod yna gymaint o ddiddordeb am berson a anwyd 2000 0 flynyddoedd yn ôl? Pam fod cymaint o bobl wedi’u cynhyrfu gan Iesu? Pam fod ei angen e arnom ni? Pam wnaeth e ddod? Pam wnaeth e f...

More

Hoffem ddiolch i Alpha a Nicky Gumbel am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://alpha.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd