Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Iesu: Baner ein BuddugoliaethSampl

Jesus: Our Banner of Victory

DYDD 7 O 7


Buddugoliaeth dros Farwolaeth


Pan fu Iesu farw dros ein pechodau a phrynu ein maddeuant, arbedodd ni o fod wedi ein gwahanu oddi wrth Dduw am byth. Cafodd anobaith marwolaeth ei newid am obaith byw mewn dyfodol tragwyddol yng nghwmni yr Arglwydd. Pan atgyfododd o'r bedd dangosodd Iesu ei fuddugoliaeth dros farwolaeth, gan brofi nad oes dim i'w gymharu â'i bŵer e. Yn Datguddiad 1:18 datganodd, "Rôn i wedi marw, ond edrych! – dw i'n fyw am byth bythoedd! Gen i mae allweddi Marwolaeth a Byd y Meirw."


Tra bo marwolaeth yn wirionedd anodd yn y bywyd hwn gallwn gael ein hangori i'r gwirionedd fod Iesu yn dal allweddi marwolaeth, ac mae wedi agor y ffordd i gerdded drwy ddrws gwahanol i fywyd tragwyddol. Nid diwedd y stori yw marwolaeth ar y ddaear. Mae cymaint mwy i ddod! Addawodd Iesu yn Ioan 11:25, “Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw."


Gan fod Duw wedi ein harbed o farwolaeth sicr, does dim angen i ni fyw mewn ofn. Dŷn ni'n rhydd i fyw bywydau hy a llawn, gan wybod beth bynnag ddigwyddith yma ar y ddaear, y cawn fyw am byth yng nghwmni Duw a chymuned ei bobl. Hyd yn oed pan fyddwn yn galaru am anwyliaid, dŷn ni'n galaru gyda gobaith, gan wybod os roddodd nhw eu ffydd yn Iesu, cawn ein haduno a phrofi gogoniant Duw gyda'n gilydd.


Ar Sul y Pasg hwn, gad i oblygiadau buddugoliaeth Iesu dros farwolaeth dreiddio i mewn i'th galon a throi dy olygon oddi wrth breuder y bywyd hwn tuag at sicrwydd bythol yn y nefoedd. Does dim colyn go iawn i farwolaeth! Dathla ei fuddugoliaeth, bydd yn llawn o ddiolchgarwch, a thyfa mewn argyhoeddiad fod ar yr holl fyd angen gobaith y nefoedd sydd gennyt ti. Dyna oedd yn ei galon e wrth farw dros bechodau dynolryw: na fyddai ddim un ohonom yn treulio tragwyddoldeb hebddo. Does dim ffordd gwell i ddangos dy ddiollchgarwch am yr hyn mae e wedi'i wneud drosot na dweud wrth y byd am ei gariad tuag atyn nhw. Dyna sut ydym yn gwneud y gorau o'r bywyd hwn. Felly, dos allan yna a byw bywyd i'r eithaf - gan ei fod e yn fyw!


Lawrlwytha ddarlun heddiwyma.


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Jesus: Our Banner of Victory

Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugol...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.churchofthehighlands.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd