Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Iesu: Baner ein BuddugoliaethSampl

Jesus: Our Banner of Victory

DYDD 5 O 7


Buddugoliaeth dros Salwch


Mae Gair Duw yn dweud ein bod wedi ein hiachau. Pan fu farw Iesu ac atgyfodi, gorchfygodd pechod. marwolaeth, a salwch ym mhob un o'u ffurfiau hyd dragwyddoldeb. Mae'n anhygoel, ond drwyddo fe dŷn ni'n rhannu yn y fuddugoliaeth! Ond beth mae buddugoliaeth dros salwch yn golygu i ni tra dŷn ni'n dal i fyw mewn byd syrthiedig?

Drwy'r holl Destament Newydd, down o hyd i nifer o wyrthiau iachau gan Iesu a'r Apostolion oedd yn gweithredu yn ei enw fe. O ddarllen y tystiolaethau hyn o iachau, mae'n hawdd iawn i gredu y bydd Duw yn ateb ein gweddïau am salwch mewn ffordd arbennig: rhyddhad ar unwaith o boen, iachâd hollol o afiechyd anwelladwy neu ddiagnosis terfynol, neu fuddugoliaeth llwyr dros gorbryder. Felly beth wnawn ni pan na fydd ein profiadau yn cyfateb i'n disgwyliadau? Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i leihau'r dyfnder anhygoel o'r hyn ydy iachâd.


Dwedodd yr Apostol Paul yn Rhufeiniaid 8:28 fod Duw'n trefnu popeth er lles y rhai sy'n ei garu. Dydy hynny ddim yn golygu fod popeth sydd yn digwydd yn dda - ni wnaeth buddugoliaeth Iesu dros bechod a marwolaeth ddileu pob un o dreialon ein bywyd ar y ddaear. I ddweud y gwir yn Ioan 16:33 addawodd Iesu mai dim ond trafferthion gawn ni yn y byd hwn, ac mae salwch, heb os nac oni bai, yn rhan o'r trafferthion y byddwn yn ei wynebu. Tra bod Duw yn dal i ymyrryd dro ar ôl tro mewn ffyrdd gwyrthiol, does dim sicrwydd o iachâd hollol yr ochr hyn i'r nefoedd. Ond fe allwn fod yn sicr o'r fuddugoliaeth dragwyddol mae ein iachawdwriaeth yn ei sicrhau. Mi fyddwn ni'n treulio tragwyddoldeb yng nghwmni Duw. Byddwn yn treulio tragwyddoldeb yng nghwmni Duw, yn llawn llawenydd ac yn hollol rhydd o salwch, pechod, marwolaeth, poen a gorbryder.


Paid digalonni os nad yw'n edrych fel bod gweddi wedi'i hateb neu gan ganlyniad sydd ddim yn cyfateb i'th ddisgwyliadau. Mae Duw yn clywed dy weddïau, ac ym mhob dim, mae e'n gweithio er dy les di a'i ogoniant. Wrth barhau yn ystod y Pasg hwn gofynna i Dduw i roi i ti bersbectif tragwyddol. Pan fyddwn yn cadw llygad ar wirionedd y nefoedd, dŷn ni'n gallu gweddio'n eofn a cherdded gydag hyder drwy unrhyw dreialon, gan wybod beth bynnag yw'r canlyniad, dŷn ni wedi ennill.


Lawrlwytha ddarlun heddiwyma.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Jesus: Our Banner of Victory

Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugol...

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i: https://www.churchofthehighlands.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd