Gwybodaeth Cynllun
Stori'r PasgSampl
DYDD SUL - Ar y diwrnod rhyfeddol yma, gad i ni dreulio amser yn myfyrio ar ystyr y groes, y bedd gwag a'r cwbl mae wedi ei roi i ni. Ond gad i ni fyfyrio hefyd ar y dasg mae'r dwirnod yma'n ein galw iddo - "gwneud disgyblion..." Yr efengyl syml wnaeth Crist ei phasio ymlaen i'w ddisgyblion oedd y newyddion da am y gras oedd i'w basio ymlaen, nid dim ond i'w dderbyn. Rhoddodd Iesu y gallu i'w ddisgyblion i wneud disgyblion eraill, a dwyn ffrwyth. Roedd yn amlwg yn gweithio gan fod y bobl wnaethon nhw'n ddisgyblion yn gwneud disgyblion eu hunain. A dyna sydd wedi ei basio ymlaen am ddwy fil o flynyddoedd. Ond ym mhob cenhedlaeth, yn sicr yn ein dyddiau ni, mae'r efengyl sy'n cael ei rhannu weithiau yn cael ei glastwreiddio. Yn lle dwyn ffrwyth go iawn, rydyn ni'n medi grawnwin heb hadau ynddyn nhw. Wrth i ni dreulio amser heddiw yn addoli Duw a diolch iddo am y gras rydym wedi ei dderbyn, gweddiwn y byddwn ni'n wynebu'r her i'w basio ymlaen, a byw y Comisiwn Mawr.
Am y Cynllun hwn
Sut fyddet ti'n gwario wythnos olaf dy fywyd petaet ti'n gwybod mai hon oedd yr olaf? Roedd wythnos olaf Iesu ar y ddaear yn llawn digwyddiadau cofiadwy, proffwydoliaethau yn cael eu cyflawni, gweddiau dwys, trafodaethau...
More
Carem ddiolch i Life.Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.Life.Church