Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Stori'r PasgSampl

The Story of Easter

DYDD 6 O 7

DYDD SADWRN - Torrodd y wraig y jar o bersawr a thywallt y cwbl. Gwastraffodd yn hael bopeth gwerthfawr oedd ganddi. Roedd torri'r jar yn afradu unrhyw siawns o gadw peth iddi hi ei hun. Rhoddodd bopeth oedd ganddi-gorffennol, presennol a dyfodol-i Iesu. Dwedodd Iesu y byddai pobl bob amser yn cofio ei chariad rhyfeddol. Yna yn y swper olaf, mae'r un geiriau yn ymddangos eto. Ei gorff yn cael ei dorri a'i waed yn cael ei dywallt trosom ni. Y tro yma pan fyddi'n darllen am Iesu'n dweud "Gwnewch hyn er cof amdanaf," paid dim ond meddwl am y darn o fara a'r sudd grawnwin. Meddylia am y cymun fel darlun o beth mae'n ein galw i'w wneud. Roedd yn ein hannog ni i wneud beth wnaeth o: cael ein torri a'n tywallt. Dos amdani. Paid cadw dim yn ôl. Ildia reolaeth yn llwyr. Dyna beth ydy cofio beth wnaeth Iesu go iawn. Dim parchu defod, ond bod yn ddarlun. Beth ddylai "torri a tywallt" ei olygu yn dy fywyd di?
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

The Story of Easter

Sut fyddet ti'n gwario wythnos olaf dy fywyd petaet ti'n gwybod mai hon oedd yr olaf? Roedd wythnos olaf Iesu ar y ddaear yn llawn digwyddiadau cofiadwy, proffwydoliaethau yn cael eu cyflawni, gweddiau dwys, trafodaethau...

More

Carem ddiolch i Life.Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.Life.Church

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd