Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 2 O 10

Dw i'n dod o deulu eang o ferched sy'n gweithio, ac wrth wneud gwaith dw i'n ei fwynhau, dw i'n gweddïo y bydd fy merch yn dysgu i ddilyn ei breuddwydion, gweithio'n galed, ac ufuddhau i Dduw, i ble bynnag mae e'n ei galw. Dw i'n gweddïo y bydd yn dysgu gen i fod prysurdeb sanctaidd yn golygu cofleidio'r gwaith dŷn ni wedi'i gael, ond dod o hyd i'n gwerth yn yr un a'n creodd i wneud y gwaith. Mae gwerth i'n gwaith a'r hyn dŷn ni'n ei wneud i wasanaethu Duw, ein cymdogion, a'n teuluoedd yn bwysig - ond nid hyn sy'n ein diffinio.


Mae gan y Gair lawer i'w ddweud am werth gwaith:


Sgwennodd Paul at yr Effesiaid i'w hatgoffa fod Duw wedi trefnu pethau da i'w blant eu gwneud a'n bod wedi ein creu i'w gwneud (Effesiaid 2:10).


Mewn llythyr arall gan Paul mae e'n annog y Corinthiaid i sefyll yn gadarn, rhoi eu hunain yn llwyr i'r gwaith, gan wybod nad yw'r gwaith sydd wedi'i wneud ar ran Duw, yn ofer (1 Corinthiaid 15:58).


Gweithiodd y wraig yn Diarhebion 31 yn fodlon, prynodd a gwerthodd dir gyda'i henillion, creodd, planodd, rheolodd (Diarhebion 31:10-31).


Gweithiodd Debora fel barnwr ac roedd fwy neu lai'n gadlywydd militaraidd (Barnwyr 4-5).


Ystyria dy syniadau, yn dda a drwg, am dy waith. Beth mae'r llais mewnol yn ei ddweud wrthot ti am y tasgau rwyt yn eu cyflawni bob dydd? Wyt ti'n teimlo fod yna unrhyw werth i dy waith, neu wyt ti'n ystyried nad ydyw "fawr o werth" o'i gymharu â swyddi, cyfrifoldebau a rolau eraill? Wyt ti'n teimlo dy fod yn gwastraffu dy amser yn syllu ar sgrîn dy gyfrifiadur pan mae dy deulu dy angen, neu wyt ti'n poeni dy fod yn colli allan ar amser gyda dy deulu? Wyt ti, a siarad yn gyffredinol, yn teimlo'n dda, drwg neu'n ddifater am dy waith?


Mae gwerth i'n gwaith pan mae'n cael ei wneud er gogoniant i Dduw a chyda chalon lawen. Pan mae e'n ein galw i waith, ble bynnag y mae a sut bynnag mae'n edrych, mae e'n rhan o'i gynllun ar ein cyfer, yn rhan o'r ffordd y cawsom ein creu i'w wasanaethu fe a charu ein cymdogion.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r lla...

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd