Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 7 O 10

Un bore Sul, eisteddon ni ar gadeiriau cadw campfa ein heglwys, ar ô; dewis mynd i wasanaeth mwy cyfoes, yn hytrach nag ein gwasanaeth arferol yn y gysegr. Gyda phum gwasanaeth bore Sul i ddewis ohonyn nhw, mae ein heglwys wedi darganfod ffordd i fod yn stiwardiaid da o le gwag, adnoddau a chymuned, drwy gynnig opsiynau sy'n atyniadol i bawb tra'n cynnal cyflwyno neges gref y Gair drwy eu gweinidogaethau. Efallai y cewch eich hun mewn campfa gyda'r pregethwr yn gwisgo jins, ond fe glywch yr efengyl yn cael ei chyflwyno yr un mor glir ag yn y gysegr gan weinidog yn gwisgo trowsus, crys a thei.


Sul diwethaf roeddwn i a fy ngŵr yn gwrando ar neges rymus ar haelioni. Ar ddiwedd y gwasanaeth gofynnwyd i ni rannu beth fydde'n ni'n wneud tase gynnon ni £100 i wario fel y mynnen ni. Beth oedd gan ein teulu ewi angen fwyaf ar y pryd? Sut fyddai £100 yn newid ein hamgylchiadau? Rhannwyd rhai syniadau - gwelliannau i'r cartref, dillad newydd i'r ysgol, pryd o fwyd i rannu â'r tewulu estynedig. O ochr arall i'r ystafell siaradodd gwraig drwy ei dagrau. Byddai'n defnyddio'r arian i fynd â'i phlant i westy â phwll nofio, am noson, fel y gallen nhw chwerthin a chwarae, a dianc am ychydig oriau oddi wrth y camdrin a dychryn y noson gynt. Roedd yn hynod o onest, diniwed a thorcalonnus.


Galwodd y gweinidog arni i du blaen yr eglwys, tynnu £ o'i waled, a'i roi e iddi, gydsa dim amodau. "Sgennoch chi ddim syniad. Sgennoch chi ddim syniad." meddai. Cododd rhai o aelodau'r eglwys gerllaw a'i hamgylchynu gyda wal o weddi cynyddu wrth iddi grïo. Chafodd e mo'i drefnu ac roedd yn hollol annisgwyl, ond yn sialens gref.


Fydde ti'n gwneud hyn? Fyddew ti'n defn yddio £100 i wneud dim mwy nac anrhydeddu a charu rhywun a'u caru drwy eu bendithio pan mae Duw yn dweud "Rho"? Os ydy'r arian yn dsy waled yn barod neu os oes rhaid i ti gynilo am chwe mis, allwn ni benderfynu i dderbyn y sialens gyda'n gilydd? Wrth i ni gyflawni'r gwaith mae Duw wedi'i roi i ni, gad i ni fod yn stiwardiaid o'r adnoddau mae e'n eu paratoi a dangos i eraill bod prysurdeb sanctaidd yn wahanol am ein bod yn pryderu mwy am bobl nac am blatfformau.


Mae caredigrwydd yn cyfrif


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r lla...

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd