Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Prysurdeb Sanctaidd: Cofleidia Fywyd o Waith Caled, Gorffwys DaSampl

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

DYDD 1 O 10

Yn ein tŷ ni dydy prysurdeb ddim yn air sy'n codi ofn. Dyna sut ydw i.


Pan fyddewn yn edrych ar ddiffiniad mewn geiriadur o brysurdeb yr esboniad a roddir yw "i weithio'n sydyn ac egnïol." Onid yw hwn yn dy atgoffa o Colosiaid 3:23? "Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol." (beibl.net). Pan dw i'n teimlo'n euog am weithio'n galed ac yn ceisio dilyn y model o orffwys a gofalu am yr enaid, sy'n ymddangos yn boblogaidd ar hyn o bryd, dw i'n cael fy hun yn gwyro fwy-fwy tuag at ddiogrwydd. Pan dw i'n mynd i'r cyfeiriad arall, ac yn hgweithio'n ddi-stop, gan ddilyn diffiniad y byd o brysurdeb, dw i'n ymdrechu gormos ac qwedi gor-flino.


Os yw'n naill ai un neu'r llall, yr un yw'r canlyniad - trueni.


Dŷn ni'n gwasanaethu Duw wnaeth greu y ddaear gyfan a phopeth arni, a hynny allan o ddim mewn chwe niwrnod. Duw fodelodd gwaith ar ein cyfer - egnïl, creadigol, gweithio'n galed gyda gorffwys yn dilyn. Wrth i mi weddïo am y model hwn a sut mae'n ffitio gyda'r cysyniad o brysurdeb modern, mae Duw wedi gwneud rhai pethau'n amlwg:


  1. Dydy prysurdeb ddim yn ddrwg pan fyddwn yn gweithio'n galed i ogoneddu Duw a gwasanaethu ei deyrnas.
  2. Mae'r Gair yn rhoi enghreifftiau i ni o fendithion gweithio'n galed.
  3. Fedrwn ni ddim byw 100 y cant o'n bywydau wedi'i fodelu ar chwe diwrnod cynta'r greadigaeth ac anwybyddu'r seithfed diwrnod.

Does dim rhaid i brysurdeb olygu achub y blaen, sathru ar ein cydweithwyr, neu dynnu sylw at ein hunain, Mae gweithio'n galed ynghlwm wrth beth sy'n cael ei ddweud yn Colosiaid 3:23, byw i'r eitha ar y ffordd mae Duw wedi ein gosod a darganfod y balans adnewyddol o weithio a gorffwys.


Heddiw. cymer amser i weddïo am y balans rhwng gwaith a gorffwys. Gofynna i Dduw amlygu'r mannau hynny nad ydyn nhw'n unol â'i gynllun ar gyfer dy fywyd, y mannau hynny ble rwyt ti'n gweithio'n rhy galed a ddim yn gorffwys ddigon, neu'r mannau hynny ble rwyt yn gorffwys gormod a ddim yn gweithio ddigon. Treulia amser yn nodi ar bapur dy fwiadau, popeth yr hoffet ei gyflawni yn y flwyddyn sydd i ddod a'u cynnig nôl i Dduw yn dawel.


Cofia gael gwared ar unrhyw beth mae e'n dy arwain i ddileu ac ychwanegu unrhyw beth mae e'n osod ar dy galon. Gofynna i Dduw sut y gelli di fawrhau ei enw drwy dy waith ar y projectau hyn, a gofynna am ei faddeuant am yr amseroedd hynny pan wnaeth trachwant, a chwilio am enogrwydd, neu gystadlu brwd yn dy gymell.



* * *


Mae'r defosiynau hyn wedi'u haddasu o Holy Hustle: Embracing a Work-Hard, Rest-Well Life gan Crystal Stine. I ddysgu mwy am sut i weithio heb gywilydd a gweithio heb euogrwydd dos i


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Holy Hustle: Embrace A Work-Hard, Rest-Well Life

Cydbwysedd. Dyma dŷn ni'n hiraethu amdano yn ein bywydau wrth i ni glywed un llais yn gweiddi "gweithia'n galetach" mewn un glust a llais arall yn gweiddi "gorffwysa mwy" yn y glust arall. Beth os nad un ffordd neu'r lla...

More

Hoffem ddiolch i Crystal Stine a Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.harvesthousepublishers.com/books/holy-hustle-9780736972963

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd