Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adamant gyda Lisa BevereSampl

Adamant With Lisa Bevere

DYDD 4 O 6


Wyt ti eisiau bod yn boblogaidd...neu wyt ti eisiau bod yn ddylanwadol?


Mae poblogrwydd a bod yn ddylanwadol yn ymddangos yn debyg, ond mae nhw'n hollol wahanol. Mae poblogrwydd yn disgwyl i ti ddilyn y dorf neu ddweud wrthyn nhw yr hyn maen nhw eisiau ei glywed. Ond mae dylanwadu yn dy wahodd i ddal yn y gwir ar wahân i'r dorf.


Yn ei hanfod nid beth yw gwirionedd ond pwy, oherwydd fe ddwedodd Iesu mai fe yw'r gwirionedd. Dwedodd hefyd fod Gair Duw yn wirionedd. Mae'r byd yn hoff iawn o feddwl am wirionedd fel rywbeth anwadal a chymharol, ond mae'r gwirionedd sydd wedi'i wreiddio ym mherson Iesu a Gair Duw fyth yn newid. Mewn byd o farnau mae gwirionedd Duw yn ein harwain i argyhoeddiad y gallwn ni adeiladu ein bywyd arno.


Rhaid i ni fod yn ofalus iawn i wahaniaethu rhwng barnau ac argyhoeddiadau. Does gan ein byd ddim angen y blerwch sy'n dod o ganlyniad i farnau gwahanol. Mae ar y byd angen y sefydlogrwydd sy'n dod gyda gwirionedd. Gad i ni beidio cyfrannu i'r sŵn sy'n tynnu ein sylw ac yn ein rhwystro rhag edrych i'r Gair ac Ysbryd y Gwirionedd.


Mae barnau yn hawdd iawn i'w dweud a'u newid, ond yn anodd iawn i roi trefn ar beth sydd wedi'i ddweud os ydyn ni wedi bod yn eiriol iawn. Mae nhw fel sbwriel sy'n llygru ein bywyd ni ac eraill. Rhaid i ni fod yn ofalus o'n geiriau i sicrhau ein bid yn rhan o ganlyniad y problemau dŷn ni wedi ein heneinio i'w newid.


Dw i'n dy herio i olygu dy fywyd a'r geiriau ti'n ddewis eu dweud. Bydd yn ofalus o'r hyn rwyt yn ei ddarllen, wrando arno, ei ddweud, neu bostio. Paid gwneud materion teuluol neu eglwysig i bawb o'r byd a'r betws eu clywed. Os nad yw rhywun yn rhan o'r broblem neu'r ateb, paid a'u cynnwys nhw heb fod angen. Gwneud y broblem yn fwy wneith hyn, yn hytrach na'i datrys.


Sut mae bod yn dawel am faterion pwysig yr un peth a'u cadarnhau nhw? Beth mae'n ei olygu'r geiriau rwyt yn eu dweud yn y fath fodd fel dy fod yn rhan o'r ateb yn hytrach na'r broblem?


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Adamant With Lisa Bevere

Beth yw gwirionedd? Mae diwylliant yn twyllo'i hun drwy feddwl mai afon yw gwirionedd sy'n llifo ar lwybr amser - craig yw e. Ynghanol môr tymhestlog o safbwyntiau, bydd y cynllun hwn yn dy helpu i dawelu'r enaid - gan r...

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://iamadamant.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd