Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adamant gyda Lisa BevereSampl

Adamant With Lisa Bevere

DYDD 1 O 6


Am ganrifoedd bu pobl yn chwilio am ddeunydd o'r enw adamas. Roedd y garreg ddi-nod hon i fod yn rymus, magnetig, yn ddisglair a anninistriol. Credai arweinwyr os bydde'n nhw fyth yn dod o hyd iddi, bydden nhw'n gallu ei defnyddio i wneud arfau ac arfwisgoedd fel eu bod yn anorchfygol. Am gannoedd o flynyddoedd fe äi arwyr ar deithiau antur i chwilio am y garreg hudol hon.


Dw i'n hoff iawn o'r syniad hyn. Mae yna rywbeth yn atyniadol iawn wrth feddwl am deithiau antur a cherrig grymus, ond does neb yn mynd ar deithiau antur a chwilio am gerrig cyfriniol bellach. Mae'r chwilio wedi newid. Nid yw'r byd yn chwilio am ryw ddefnydd anhydraidd bellach ond am wirionedd clir a phendant.


Yn ei hanfod dŷn ni eisiau rhywbeth sy'n solid a chadarn. Fe wnaeth Peilat ei hun ofyn i Iesu, "Beth yw'r gwirionedd?" I lawer, mae hwn yn gwestiwn anodd ac am amser llawer iawn rhy hir, dŷn ni wedi bod yn fodlon ar beidio ceisio'i ateb


Dŷn ni'n byw menw oes ble mae angen mynd i graidd sgyrsiau, at graidd perthynas, craidd cysylltiad gyda Gair Duw, sy'n wirionedd. Dŷn ni'n genhedlaeth sydd wedi colli'r gallu i syfrdanu, ac yn amlach na pheidio dŷn ni'n rhedeg ar ôl pethau di-ystyr sy'n cuddio mewn afon o anwiredd.


Nid gwirionedd yw afon ond craig.


Ynghanol yr holl anhrefn a chymharu mae'n rhaid i ni droi at Iesu. Fe yw ein Craig, yr un diysgog, disymud a digyffro. Dŷn ni'n cael gwahoddiad i lunio ein bywyd, nid yn unig arno fe ond ynddo fe hefyd fel mae fe yw ein sylfaen cadarn. Fe yw'r unig sylfaen gadarn sydd ar gael mewn byd ansefydlog.


Pan wnawn ni hyn, mae e'n ein gwneud yn gadarn, yn union fel fe Fe yw'r garreg sylfaen, ond dŷn ni hefyd yn gerrig bywiol, wedi ein hadeiladu gydag e i mewn i dŷ ysbrydol sy'n cynrychioli lle i gysgodi i'r rhai sydd wedi cael eu hysgwyd gan fyd sy'n newid yn ddi-ddiwedd.


Mae hwn yn rhan o'n galwad fel Cristnogion - i sefyll yn gadarn, nid er mwyn ein hunain, ond er mwyn y rhai hynny sy'n chwilio am rywbeth i adeiladu eu bywyd arno.


Beth mae e'n ei olygu i ti mai Iesu yw'r Graig? Beth yw'r rhannau hynny yn dy fyd di sydd yn amhendant?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Adamant With Lisa Bevere

Beth yw gwirionedd? Mae diwylliant yn twyllo'i hun drwy feddwl mai afon yw gwirionedd sy'n llifo ar lwybr amser - craig yw e. Ynghanol môr tymhestlog o safbwyntiau, bydd y cynllun hwn yn dy helpu i dawelu'r enaid - gan r...

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://iamadamant.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd