Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Adamant gyda Lisa BevereSampl

Adamant With Lisa Bevere

DYDD 2 O 6


Does neb yn tyfu i fyny heb brofi tywyllwch. I ryw raddau mae pawb yn clywed lleisiau o'n cwmpas, yn feirniadol ohonom ac yn ein labelu. Mae'r rhan fwyaf ohonom, os nad pob un ohonom, wedi labelu ein hunain hefyd - ryw hunaniaeth y bydde'n ni'n taeru ei fod yn wir.


Pan fydd Duw yn agosáu atom, dydy e ddim yn gwneud hynny i'n condemnio, ond ein cofleidio fel ein bod yn clywed ei lais yn datgan pwy ydyn ni go iawn.


Y gwirionedd yw: Nid tywyllwch y gorffennol ydyn ni. A dŷn ni ddim wedi ein diffinio gan ein camgymeriadau, rhyw, na dim byd allanol. Yn hytrach dŷn ni'n eneidiau wedi'u creu ar lun a delw Duw, wedi ein llunio ar gyfer agosatrwydd gyda'r un rddodd anadl ynddo ni.


Dŷn ni'n colli golwg ar ein hunaniaeth pan fyddwn ni'n glynu wrth bethau anghywir. Dyna pam y gwneith Duw waredu'r labeli hynny sydd wedi ein rhwystro ar daith bywyd. Mae ei Ysbryd yn gweithio'n ddyfn o'n mewn, yn gwaeredu'r hen ac yn amlygu pethau sydd eto i'w gweld.


Efallai fod ofn ac ansicrwydd wedi dy arwain i rwystro Duw weithio yn dy fywyd. Ond heddiw mae Duw yn siarad efo ti yn y llefydd hynny roeddet ti'n meddwl eu bod yn ddiffaith, ac mae'n cynnig eu troi yn ardd eto.


Mae'n rhaid i ni fod yn fodlon i Dduw wahanu'r golau oddi wrth y tywyllwch yn ein bywydau. Ni fydd Duw yn caniatáu i'rlleisiau celwyddog glywais ti, aros. Ni fydd Duw yn caniatáu i'r celwyddau rwyt wedi eu credu dy hun gael y gair olaf. Fe fydd ef yn agosáu atat fel ei fod yn datgelu rhywbeth newydd ynddo ti, rhywbeth sy'n iachau'n llwyr pob poen rwyt wedi'i brofi, fel dy fod yn rhydd i fyw yn y gwirionedd o'r hyn wyt ti go iawn.


Mae Duw yn ddisygog yn ei agosatrwydd. Bydd yn mynd i wraidd dy boen i'th wella, ond rhaid i ti ganiatáu iddo wneud hynny. Beth allai hyn edrych yn debyg iddo yn dy fywyd di?


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Adamant With Lisa Bevere

Beth yw gwirionedd? Mae diwylliant yn twyllo'i hun drwy feddwl mai afon yw gwirionedd sy'n llifo ar lwybr amser - craig yw e. Ynghanol môr tymhestlog o safbwyntiau, bydd y cynllun hwn yn dy helpu i dawelu'r enaid - gan r...

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://iamadamant.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd