Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Lladd Kryptonite Gyda John BevereSampl

Killing Kryptonite With John Bevere

DYDD 4 O 7


Heddiw. dw i am ddangos i ti y twyll mwyaf llechwraidd sy'n arwain Cristnogion at eilunaddoliaeth. - hyd yn oed ar y funud hon.


I wneud hynny, dw i eisiau i ti feddwl am y llo aur ar Fynydd Sinai. Os wyt ti'n cofio. roedd Duw newydd arwain Israel o'r Aifft drwy nifer o wyrthiau pwerus a'u harwain drwy'r anialwch i fynydd Sinai. Rhoddodd Duw ei orchmynion iddyn nhw ond cilio wnaethon nhw a mynnu bod Moses yn mynd i gopa'r mynydd i siarad â Duw ar ei ben ei hun.


Tra mae Moses i ffwrdd mae'r pobl yn colli amynedd. Mae nhw'n mynd at frawd Moses, Aaron ac yn mynnu ei fod yn gwneud duwiau ar eu cyfer i'w harwain i'r wlad roedd Duw wedi'i addo iddyn nhw.Nawr, y gair wnaethon nhw ddefnyddio ar gyfer "duwiau" oedd Elohim, sy'n cael ei ddefnyddio'n yr Hen Destament i gyfeirio at dduwiau paganaidd a'r duw go iawn, felly dŷn ni ddim yn gwybod eto at bwy mae nhw'n gyfeirio.


Mae Aaron yn rhoi mewn i'r hyn mae nhw'n hawlio, adeiladu delw o lo, ac yn dweud, "O Israel! Dyma'r duwiau ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft!" (Exodus. pennod 32, adnod 4). Dŷn ni dal ddim yn siŵr pa Dduw maen nhw'n siarad amdano, ond mae Aaron yn gwneud y peth yn hollol glir ar unwaith.


Mae e'n dweud, "Yfory byddwn ni'n cynnal Gŵyl i'r Arglwydd!” (Exodus, pennod 32, adnod 5). Nawr pan welwn y gair "Arglwydd" yr hyn sydd wedi'i sgwennu ydy "Iawe", enw Duw. Nawr, dŷn ni'n gwybod pwy maen nhw'n siarad amdano.


Dyma beth ys'n digwydd. Mae nhw'n datgan: Iawe yw ein Duw ni. Iawe achubodd ni o'r Aifft. Iawe yw ein Arglwydd.", eto maen nhw'n addoli eilun. Rhaid i ni weld y rhybuddion hyn, oherwydd os oedd ganddyn nhw'r datganiadau cywir tra'n addoli eilun ar yr un pryd, yma, mae hynny'n bosib i ni hefyd.


Yn wir, mae llawer o Gristnogion yn gwneud hyn bob dydd. Mae nhw'n datgan, "Iesu yw'r Arglwydd" ond dŷn nhw ddim yn dilyn Iesu. Yn union fel roedd Israel yn addoli Iawe, ond yn dilyn eu dymuniadau eu hunain yn lle ewyllys duw, mae llawer o Gristnogion yn dewisa dethol pa rannau o'r Ysgrythur maen nhw eisiau eu dilyn, ac yn anwybyddu'r gweddill sy'n eu herio!


Mae hyn yn creu Iesu ffug - eilun. Dydy e ddim yn addoli Iesu mewn gwirionedd.


Y cwestiwn mae'n rhaid ei ofyn yw, sut ame gwybod ein bod yn addoli'r Iesu go iawn, ac nid ryw Iesu ffug?


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Killing Kryptonite With John Bevere

Fel Superman ei hun sy'n gallu gorchfygu pob gelyn, mae gen ti fel dilynwr Crist y gallu goruwchnaturiol i orchfygu'r heriau sy'n dy wynebu. Ond y broblem i ti a Superman ydy, mae yna kryptonite sy'n dwyn dy nerth. Bydd ...

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere (Messenger Rhyngwladol) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://killingkryptonite.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd