Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Lladd Kryptonite Gyda John BevereSampl

Killing Kryptonite With John Bevere

DYDD 2 O 7


Un noson, daw Justin gartre o'r gwaith a dod o hyd i'w wraig wedi ymbincio ac ar fin gwisgo ffrog hardd. Mae e'n casglu ei bod wedi trefnu rywbeth arbennig ar eu cyfer ac yn cynnig mynd i newid hefyd.


Mae Angela, braidd yn ddryslyd, yn ymateb, "O, cariad dw i'n mynd allan efo Tobny heno. Dŷn ni'n mynd i gael swper, mynd i weld ffilm, ac aros yng Ngwesty Fairmont. ddylwn i fod yn ôl ganol bore."


"Pwy ydy Tony?" gofynnodd Justin yn flin.


"Fy nghariad i o'r ysgol," atebodd.


Beth? Fedri di ddim mynd allan efo fe."


"Pam ddim?


"Achos dŷn ni'n briod, Dŷn ni wedi ein hymrwymo i'n gilydd. Dŷn ni ddim yn mynd allan gyda pobl eraill" atebodd gan feddwl fod hynny'n hollol amlwg.


"Aros am funud, cariad, ti ydy fy ffefryn. Dw i'n dy garu di fwy na fy hen gariadon i gyd, ond siawns na fedri di ddisgwyl i mi beidio eu gweld nhw eto. Dw i wedi bod yn agos i lot ohonyn nhw ers blynyddoedd a dw i'n dal i'w caru nhw, ac eisiau mwynhau amser gyda nhw. Beth sydd o'i le ar hynny?


"Wrth gwrs, dydy'r pâr yma ddim yn bodoli go iawn. Fedrwn ni ddim dychmygu y byddai rywun ddim yn deall fod priodas yn golygu perthynas unigryw. Yn sicr, fydde run ohonon ni'n priodi rywun fel Angela oedd yn disgwyl cael parhau mewn perthynas gyda hen gariadon.


Eto, dyma sut mae cymaint ohonon ni'n trin ein perthynas gydag Iesu.


Drwy'r Beibl, mae Duw yn cymharu ein perthynas ag e fel priodas. Dyma hefyd y ffordd siaradodd Duw am ei berthynas gydag Israel yn yr Hen Destament. Yn ddiddorol iawn, bob tro y siaradodd Duw gydag Israel drwy'r proffwydi am sut wnaethon nhw odinebu yn ei erbyn, roedd yn ymwneud ag eilunaddoliaeth.


Efallai ein bod yn ystyried eilunaddoliaeth fel penlinio i gerfluniau, ond calon y peth yw addoli. Mae Duw yn diffinio addoli y tro cyntaf y mae sôn amdano yn y Beibl yn hanes Abraham ac Isaac. Yma gwelwn mai addoliad yw ufudd-dod.


Nid cân araf, hyfryd yw addoliad, ufudd-dod yw e. dydy e ddim o bwys sut dŷn ni'n "perfformio" yn yr eglwys, os nad ydyn ni'n ufuddhau i Dduw yn ein bywydau bob dydd, dŷn ni ddim yn ei addoli e, ac mewn gwirionedd yn godinebu fel Angela.


Sut mae'r dealltwriaeth yma o addoli yn newid dy ffordd o feddwl am fyw bywyd Cristnogol?


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Killing Kryptonite With John Bevere

Fel Superman ei hun sy'n gallu gorchfygu pob gelyn, mae gen ti fel dilynwr Crist y gallu goruwchnaturiol i orchfygu'r heriau sy'n dy wynebu. Ond y broblem i ti a Superman ydy, mae yna kryptonite sy'n dwyn dy nerth. Bydd ...

More

Hoffem ddiolch i John a Lisa Bevere (Messenger Rhyngwladol) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://killingkryptonite.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd