Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

5 Gweddi o OstyngeiddrwyddSampl

5 Prayers of Humility

DYDD 3 O 5

Gweddi 3: “Arglwydd, os gweli di’n dda arwain a thywys fi.”

Wrth i ti gerdded i lawr llwybr bywyd, byddi’n wynebu llawer o sefyllfaoedd ansicr a heriol, ond os wnei di ofyn i'r Arglwydd dy arwain. A'th dywys drwy'r cwbl, bydd yn dangos ti i lwybr llwyddiant ynddo e - a bydd e’n dy amddiffyn rhag llwybr methiant.


Pan fyddi di'n gofyn yn graff i'r Arglwydd dy arwain a'th dywys, rwyt ti'n cyfaddef dy fod yn dibynnu arno.

Trwy weddïo'r weddi un frawddeg syml iawn hon ("Arglwydd, plîs arwain a thywys fi!"), rwyt ti'n cyflawni sawl peth:


  • Rwyt ti’n cydnabod dy angen amdano.
  • Rwyt ti'n dangos nad oes gen ti agwedd haerllug, gwybodus.
  • Rwyt ti’n cydnabod bod angen Iesu arnat ti i'th arwain i harbwr diogel.
  • Rwyt yn bod yn graff i weld pethau o safbwynt llawer gwell na thi dy hun; ei fod e’n gwybod mwy na thi; a bod arnat ti angen ei ddoethineb.

Mae'r weddi syml hon yn dangos agwedd a chalon ostyngedig, a bydd Duw yn dy wobrwyo amdani.

Dos ymlaen i weddïo! Yn syml, plygu dy ben y funud yma, yn union fel yr wyt ti, a deisebu'r Tad yn enw Iesu i'th arwain a'th dywys. Bydd yn gwrando ar dy weddi. A bydd e’n dy gynorthwyo i lywio dy fywyd - a'i gynlluniau e ar dy gyfer - â doethineb anfeidrol, fel y gall e’n unig.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

5 Prayers of Humility

Angen mwy o ras, ffafr, a bendith Duw? Yna gweddïa’r pum gweddi syml hyn o ostyngeiddrwydd, gan ofyn i'r Arglwydd i ddangos ffafr tuag atat ti a'th helpu. Bydd yn ateb dy weddi; mae'n rhoi gras i'r gostyngedig! Ac os wne...

More

Hoffem ddiolch i From His Presence Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.fromhispresence.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd