Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

5 Gweddi o OstyngeiddrwyddSampl

5 Prayers of Humility

DYDD 2 O 5

Gweddi 2: “Disgybla fi sut bynnag y mynni.”

Weithiau mae'n anodd i'n cnawd ni ddeall, ond mae'r Beibl yn ein dysgu bod cywiriad Duw yn arwydd o'i gariad e. Dydy Duw ddim yn ein cywiro ni allan o gasineb nac o ysbryd cas. Nid oes ganddo hyd yn oed y teimladau hynny tuag atom! Mae'n Dad caredig, grasol, a chariadus sy'n gwybod bod angen disgyblaeth arnom er mwyn tyfu - ac er mwyn dod yn debycach i Iesu.


Mae Duw yn ein cywiro ni oherwydd ei fod yn ein caru ni.

Felly, gan fod ei law o ddisgyblaeth yn arwydd o gariad, oni ddylem ddyheu am ei ddisgyblaeth? Oni ddylem ni edrych am ffon ei fugail ar ein llaw ddeau ac ar y chwith inni, gan ddangos i ni y llwybr cywir i’n traed?


Fy ffrind, onid wyt ti am deimlo tynfa dyner llaw dywys ein Harglwydd yn dy arwain yn y ffordd y mae e am iti fynd? Darllena Salm 32:8 i weld beth mae wedi ei addo inni.


Wrth gwrs, y dylem.


Fy ffrind, os wyt ti am fod yn wirioneddol ostyngedig gerbron yr Arglwydd, dos ymlaen a gofyn iddo am ei ddisgyblaeth.

Mae'n iawn bod yn graff i wneud hynny. Peth da yw gofyn i'r Arglwydd, "Os gweli di’n dda, Iesu, disgybla fi sut bynnag y mynni."


Bydd ei ddisgyblaeth ond yn ein gwella ni. Yn ogystal, bydd ein bywydau yn haws os wnawn i achub ar y cyfle cyntaf i ofyn iddo am ei gywiriad a'i ddisgyblaeth ymlaen llaw, yn hytrach na mynd ein ffordd ein hunain a chael canlyniadau annisgwyl (neu ddiangen) ar gyfer gwneud penderfyniadau drwg.


Fy ffrind, mae gynnon ni Dad cariadus sy’n fodlon ein cywiro a’n harwain pan fyddwn ni’n anghywir, neu pan dŷn ni mewn perygl o gerdded ar hyd llwybr peryglus. Oni wnewch ti ofyn iddo heddiw eich cywiro mewn unrhyw ffordd y mae angen iddo wneud hynny, er mwyn i ti allu aros ar ei lwybr syth a chul?


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

5 Prayers of Humility

Angen mwy o ras, ffafr, a bendith Duw? Yna gweddïa’r pum gweddi syml hyn o ostyngeiddrwydd, gan ofyn i'r Arglwydd i ddangos ffafr tuag atat ti a'th helpu. Bydd yn ateb dy weddi; mae'n rhoi gras i'r gostyngedig! Ac os wne...

More

Hoffem ddiolch i From His Presence Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.fromhispresence.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd