Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Tanio: Arweiniad Syml i Weddi HyderusSampl

Ignited: A Simple Guide for Bold Prayer

DYDD 4 O 6

Clywed gan Dduw

Does dim byd tebyg i glywed llais Duw. Un ffordd i'w glywed yw trwy ei Air. Mae Rhufeiniaid 10:17 yn dweud wrthym, o'r hyn a glywir y daw ffydd, a daw'r clywed trwy air Crist. (beibl.net) . Ond os ydym am gerdded drwy ffydd ac nid trwy weld, os ydyn ni eisiau clywed Gair Duw a gweld addewidion Duw yn cael eu cyflawni, yna mae'n rhaid i ni ddal ati i weddïo a thrystio bod gan Dduw fwy i'w rannu. Dyma ychydig o ffyrdd i'th helpu:


1. Bydd yn Angerddol, Hyd yn oed Wrth Aros

1 Mae Samuel 3 yn cofnodi hanes Samuel yn dysgu gwrando ar lais Duw. Beth mae hyn yn ei olygu i ni? Fel Samuel, falle na fyddwn ni’n adnabod llais Duw ar y dechrau. Falle y bydd yn cymryd amser, amynedd, a chyngor pobl eraill i'n helpu ni i ganfod yr hyn dŷn ni'n ei glywed. Gwranda amdano e’n eiddgar.


2. Bod â lle ar ei gyfer

Trwy gydol yr Efengylau, dŷn ni’n gweld Iesu yn cilio oddi wrth ei ddisgyblion a’r tyrfaoedd i ddod o hyd i le tawel i weddïo. Gwnaeth hyn oherwydd, er ei fod ac yn Fab Duw, roedd hefyd yn gwbl ddynol. Roedd yn wynebu’r un brwydrau a gwrthdyniadau â ni, a dyna pam wnaeth e ddangos i ni trwy esiampl bwysigrwydd bod ar ben ein hunain i weddïo. Yn yr un modd, lle bynnag rwyt ti’n gallu, sut bynnag rwyt ti’n gallu, cymera eiliadau o'th ddiwrnod i dawelu dy feddwl a gweddïo.


3. Dyfalbarhau

Os wyt ti'n dechrau gweddïo'n gyson bob dydd ac yn dal i'w chael hi'n anodd clywed llais Duw, paid â rhoi'r ffidil yn y to. Dalia i bwyso. Dalia i gredu. Dalia ati i weddïo. Dalia ati i astudio Gair Duw fel y byddi di'n gwybod, pan fydd yn siarad, mai e yw! Yn Jeremeia 33:3, mae Duw yn addo, “‘Galw arnaf, ac atebaf di; mynegaf i ti bethau mawr a dirgel na wyddost amdanynt.’” (beibl.net) . Mae hynny'n addewid gwerth ei gofio a dyfalbarhau i'w weld yn cael ei gyflawni!


Gweddi:

Duw, dw i’n dy ganmol am dy fod yn dda ac yn deilwng i'th ganmol. O genhedlaeth i genhedlaeth ac oes i oes, dwyt ti byth yn newid. Rwyt yn ffyddlon i'th addewidion. Rwyt ti'n parhau yn dy gariad. Rwyt ti'n ddibynadwy yn dy air. Llefara, Arglwydd, y mae dy was yn gwrando. Amen!


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Ignited: A Simple Guide for Bold Prayer

Rhodd ydy gweddi, cyfle anhygoel i fod mewn perthynas â'n Tad Nefol. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddwn yn darganfod beth wnaeth Iesu ddysgu i ni am weddi, a chael ein hysbrydoli i weddïo’n gyson a hyderus.

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.propelwomen.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd