Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Tanio: Arweiniad Syml i Weddi HyderusSampl

Ignited: A Simple Guide for Bold Prayer

DYDD 2 O 6

Dosbarth Meistr Iesu ar Weddi

Wnaeth Iesu ddim cymryd yn ganiataol y byddem yn gwybod popeth am weddi yn awtomatig. Dysgodd yn rasol ei ddilynwyr oedd am ddysgu sut i weddïo yn y Bregeth ar y Mynydd, gan ddweud:


“Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o’r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad sy’n gweld pob cyfrinach yn rhoi dy wobr i ti. A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae’r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. Peidiwch chi â bod fel yna. Mae’ch Tad chi’n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair.
"Dyma sut dylech chi weddïo:
Ein Tad sydd yn y nefoedd,
dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu
Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu.
ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di
ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd.
Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw.

Maddau i ni am bob dyled,
yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai dydd mewn dyled i ni.
Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi, < /em>
ac achub ni o afael y drwg.”
- Mathew 6:6-13 (beibl.net)

Sylwa ar rai o'r gwirioneddau y mae Iesu'n eu cynnwys:

  • Does dim rhaid i weddïau fod yn hir nac yn gymhleth.
  • Nid yw gweddi i fod yn berfformiad cyhoeddus, ond mae'n ymwneud â chysylltu â Duw.
  • Mae Duw yn croesawu gweddi. Mae wrth ei fodd yn ymateb pan ddown ato.
  • Mae gweddi yn gyfle i addoli Duw a chydnabod ei fawredd.
  • Gall gweddi gynnwys gofyn am faddeuant, gofyn am ddarpariaeth, a cheisio ewyllys Duw.
  • Mae gweddi yn hyrwyddo Teyrnas Dduw ar y ddaear!

Dydy ein gallu na’n soffistigeiddrwydd o bwys, oherwydd dydyn ni ddim yn rhoi ein hyder yng ngrym ein gweddïau. Mae ein hyder yng ngallu Duw, sy'n ein caru ni ac yn gwrando arnom ni ac yn gweithredu pan fyddwn ni'n gweddïo. Dyma pam dŷn ni'n gweddïo.

Nid “geiriau cywir” neu fformiwla benodol yw canolbwynt gweddi. Iesu yw e.

Gweddi:

Ein Tad yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw. > Maddau i ni am bob dyled, yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai dydd mewn dyled i ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Ignited: A Simple Guide for Bold Prayer

Rhodd ydy gweddi, cyfle anhygoel i fod mewn perthynas â'n Tad Nefol. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddwn yn darganfod beth wnaeth Iesu ddysgu i ni am weddi, a chael ein hysbrydoli i weddïo’n gyson a hyderus.

Hoffem ddiolch i Christine Caine - A21 Propel CCM am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.propelwomen.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd