Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dy Flwyddyn Torri Trwodd: 5 Diwrnod o Ysbrydoliaeth i Gychwyn dy Flwyddyn Newydd ​​Sampl

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

DYDD 3 O 5

DIWRNOD 3 - TORRI’n rhydd


Ges i’r fraint o ymweld â dinas hynafol Philipi yng Ngwlad Groeg. Dyma'r man y sefydlodd yr apostol Paul yr eglwys Gristnogol gyntaf yn Ewrop. Yma hefyd y daeth y person cyntaf i fod yn un o ddilynwyr Crist yn Ewrop. Ei henw oedd Lydia a chafodd ei hachub ac yna ei bedyddio. Roeddwn i'n gallu ymweld â'r man lle cafodd ei bedyddio yn afon Gangites.


Wnaeth Paul â Philipi ymweld ar o leiaf ddau dro arall. Tra yn Rhufain, sgwennodd Paul i'r eglwys hon lyfr y Philipiaid. Mae’r llyfr hwn yn cynnwys rhai o’r darnau enwocaf yn y Beibl (1:6, 2:5-11, 3:12-14, 4:13). Mae llawenydd Paul tuag at yr eglwys yn Philipi yn amlwg yn ei lythyr lle mae’n eu hannog i fyw bywyd Cristnogol buddugol.


Yn Philipi hefyd y cafodd Paul a Silas eu curo a'u harestio. Wnes i weld y carchar lle cawson nhw eu carcharu. Roedd Paul wedi bwrw allan ysbryd dewiniaeth o ddynes. Ond pan sylweddolodd ei meistri na allen nhw ei defnyddio ddim mwy i wneud arian gawson nhw eu lluso o flaen y llywodraethwyr a'u cyhuddo o fod yn drafferthus.


Am hanner nos roedd Paul a Silas yn gweddïo ac mae Actau 16:26 yn dweud: “Yna'n sydyn dyma ddaeargryn mawr yn ysgwyd y carchar i'w sylfeini. Dyma'r drysau i gyd yn agor, a'r cadwyni yn disgyn i ffwrdd oddi ar bawb!” Digwyddodd daeargryn bach yn yr union fan hwnnw. Grym Duw yn eu rhyddhau o garchar!


Pan wnaeth hyn ddigwydd, tynnodd y swyddog ei gleddyf allan i ladd ei hun gan fod y carcharorion yn mynd i ddianc. Ond wnaeth Paul ei rwystro, a dwedodd ceidwad y carchar wrth Paul, “Beth sydd raid i mi ei wneud i gael fy achub?” Atebodd Paul, “Credu yn yr Arglwydd Iesu, dyna sut mae cael dy achub...”


Mae'r un gallu gan Dduw ar gael heddiw i unrhyw un sydd ei angen. Mae pobl yn y carchar yn dal i gael eu hachub. Mewn gwirionedd, mae yna fudiad mawr o ddynion sy'n cael eu hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth tra yn y carchar.


Mae Duw yn dal i ryddhau pobl o unrhyw fath o gaethiwed. Heddiw mae gan gynifer ohonyn nhw ddibyniaethau amrywiol sy'n eu cadw'n gaeth. Gall fod yn alcohol neu gyffuriau. Gall fod yn bornograffi neu'n gorwario. Beth bynnag yw, gall Duw dy ryddhau. Dw i'n gwybod cymaint o straeon am rai’n cael eu hachub ble mae Duw yn eu gwaredu ar unwaith o'u caethiwed.


Mae gallu Duw yn real. Ac mae ar gael i bawb. Hyd yn oed os wyt ti wedi treulio blynyddoedd yn cael dy rwymo mewn cadwyni, gall Duw dy ryddhau di. Yn union fel y gwnaeth Duw i Paul a Silas, gall wneud i ti.


Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

Fe all y flwyddyn newydd fod yn arloesol i ti. Mae dy ddatblygiad newydd ar y gweill jyst tu draw i’r rhwystr a wynebwyd gen ti'r llynedd. Gall hon fod y flwyddyn y byddi di, o'r diwedd, yn cael y datblygiad arloesol syd...

More

Hoffem ddiolch i The Fedd Agency am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.rickmcdaniel.com/thisisliving.html

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd