Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dy Flwyddyn Torri Trwodd: 5 Diwrnod o Ysbrydoliaeth i Gychwyn dy Flwyddyn Newydd ​​Sampl

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

DYDD 1 O 5

byddai ffeindio adeilad yn angenrheidiol.


Fe wnaethon ni godi arian i brynu eiddo a dechrau chwilio am y lleoliad cywir. Roedd yn broses hir a blinedig. Wnaethon ni ar 25 o wahanol safleoedd a phenderfynu nad oedd yr un ohonyn nhw’n ateb gofynion ein heglwys.


Roedd angen torri tir newydd arnom - roedd yn rhaid i rywbeth gwyrthiol ddigwydd er mwyn i ni gael yr eiddo pwrpasol. Ym myd yr eglwys, nid yw’n gymaint i wneud â lleoliad, lleoliad, lleoliad ond cyfleustra, cyfleustra, cyfleustra.


Un diwrnod dwedodd dyn yn yr eglwys a oedd yn asiant wrthyf y gallai drefnu cyfarfod gyda llywydd datblygwr eiddo mwyaf ein hardal. Yn y cyfarfod hwnnw, gofynnais iddo am ddarn o eiddo yr oedden nhw’n berchen arno. Dyma'r safle roeddwn i wedi bod ei eisiau ers talwm.


Roedd yr eiddo ar ffordd pedair lôn a oedd yn allanfa i draffordd. Roedd 1000 troedfedd o du blaen i’r eiddo ac roedd gyferbyn â'r datblygiad tai mwyaf yn yr ardal. Yn anhygoel dwedodd wrtho i y bydden nhw’n gwerthu eiddo ein heglwys. Ac yna dwedodd wrtho am mai'r pris fyddai $348,000 am safle gwerth dros $1,000,000!


Dyma ble ddigwyddodd y torri trwodd a newidiodd ein heglwys am byth. Yn y flwyddyn gyntaf ar ôl adeiladu'r eiddo, bu bron i ni ddyblu mewn maint. Mae 1 Cronicl 14:11 yn dweud wrthon ni, “Felly aeth i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri drwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.”


Gall Duw roi datblygiad arloesol i ti hefyd. Pan fydd yn digwydd, bydd fel llif o fendithion rhyfeddol. Rhaid i ti geisio Duw yn daer amdano... a sawl gwaith, bydd yn cymryd llawer mwy o amser, na fyddet ti’n ei ddymuno, iddo ddigwydd. Ond Duw a'i gwna, fe ddaw'r torri trwodd ac ni fydd dy fywyd byth yr un peth.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Your Breakthrough Year: 5 Days of Inspiration to Kickstart Your New Year

Fe all y flwyddyn newydd fod yn arloesol i ti. Mae dy ddatblygiad newydd ar y gweill jyst tu draw i’r rhwystr a wynebwyd gen ti'r llynedd. Gall hon fod y flwyddyn y byddi di, o'r diwedd, yn cael y datblygiad arloesol syd...

More

Hoffem ddiolch i The Fedd Agency am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.rickmcdaniel.com/thisisliving.html

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd