Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 3 O 21

Twyll



Y peth nesaf rhaid i ni gael gwared arno er mwyn gallu byw bywyd sy’n gorlifo llawn Ysbryd yw twyll y gelyn..



Yn Ioan 8:44, mae'n galw'r diafol yn gelwyddog. Ond nid dim ond celwyddog - mae'n ei alw'n dad celwydd. Mae hwn yn dipyn o deitl ac yn bendant nid yw'n cael ei roi i'r celwyddog cyffredin yn unig. Mae ein gelyn yn feistr ar dwyll. Dylai sylweddoli hyn ein sbarduno i weithredu i amddiffyn yn erbyn yr holl dwyll a ddaw yn ei sgil drwy'r byd.



Yn Galatiaid 6:7-8, mae Paul yn dweud wrth yr eglwys am beidio cael eu twyllo. Hyd yn oed bryd hynny, ac yn enwedig nawr, mae'r gelyn ar waith yn gogwyddo Gair Duw, yn drysu ei blant, ac yn niwlio moesau. Allwn ni ddim gadael i ni ein hunain fod yn ddioddefwyr ei dwyll meistrolgar.



Yn hytrach, mae angen inni wreiddio ein hunain yng ngwirionedd Gair Duw. Pan fyddwn ni'n gwneud hyn, dŷn ni'n llai agored i dwyll y gelyn a gallwn barhau i gerdded yn ewyllys Duw heb wyro.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fy...

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd