Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 21 O 21

Cyflawnder Duw



Mae’n rhaid i’n ffydd ymestyn allan i fan lle dŷn ni’n credu bod gan Dduw bethau mawr i ni, a dŷn ni’n fodlon gofyn amdano. Er mwyn cyrraedd y lle hwn mae'n rhaid i ni edifarhau am unrhyw feddwl bach. Dŷn ni i gyd wedi bod yn euog o hyn. Dŷn ni i gyd wedi bod yn euog o drio rhagweld patrwm Duw. Dŷn ni i gyd wedi trio cynllunio ffordd y gallai e gyflawni'r peth dŷn ni'n gofyn amdano. Yn aml, dydy e ddim yn dilyn y patrwm roedden ni'n meddwl amdano o gwbl. Mae hyn oherwydd bod ein meddwl yn rhy fach.



Mae Effesiaid 3:20 yn ei ddweud yn berffaith, “Mae'n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni'n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!.” Mae Duw’n ddigon. Waeth beth yw'r sefyllfa, waeth beth yw'r gwagle, waeth beth fo'r diffyg, mae'n ddigon. Ac y mae e’n fwy na digon.



Mae'n rhaid i ni wybod bod pum torth a dau bysgodyn yn fwy na digon i fwydo miloedd. Mae'n rhaid i ni wybod y bydd taflu ein rhwydi'r ochr arall i'r cwch yn dod â'r ddalfa enfawr dŷn ni wedi bod yn gweithio mor galed amdani. Mae'n rhaid i ni feddwl yn ddigon mawr i ofyn i Dduw ddatgelu ei hun yn ein sefyllfa, a pheidio â'i gyfyngu e i’n galluoedd ein hunain. Rhaid i ni fynd allan o'r meddylfryd bod yn rhaid i bethau fod mewn ffordd benodol. Mae ei ffyrdd e’n uwch na'n ffyrdd ni; Mae ei feddyliau e’n uwch na'n meddyliau ni. I gerdded mewn gorlifiad, rhaid i ni leoli ein hunain i dderbyn cyflawnder Duw. Dw i’n addo i ti, bydd yn fwy nag yr oeddet ti erioed wedi meddwl y gallai fod.



Mae Colosiaid 2:8-10 yn ein rhybuddio i beidio cael ein rhwymo gyda rhyw syniadau sy'n ddim byd ond nonsens gwag Allwn ni ddim gadael i ni ein hunain anghofio ein bod yn gwasanaethu ARGLWYDD hollalluog, hollwybodol, hollbresennol y Bydysawd. Rhaid i ni wrthod meddwl bach a bod yn agored i’r pethau mawr, rhyfeddol, goruwchnaturiol mae Duw eisiau eu gwneud ynom ni a thrwom ni!



Dyma yw gorlifiad. D oes angen i ni wybod sut, pryd, ble, na gyda phwy y mae'n mynd i ddigwydd. Mae angen i ni ymddiried yn Nuw i'w gyflawni er ein lles a'i ogoniant e. Mae’n bryd taflu ein cynlluniau i ffwrdd. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn gweld gwyrthiau.



Mae’n bryd cydnabod a chofleidio’r bywyd sy’n gorlifo, wedi’i rymuso gan Ysbryd, yr oedd Duw yn ei olygu i ti ei fyw. Mae'n bryd gorlifo er gogoniant Duw!



Tydi dy daith yn gorffen yma. Dim ond 21 diwrnod cyntaf dy daith i orlifiad yw'r rhain. Nawr, cymera’r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn y cynllun hwn a'u cymhwyso i'th fywyd bob dydd.



Awyddus am fwy? Edrychwch ar 21 Days to Overflow Jeremiah Hosford. Mae'r llyfr hwn yn trafod 21 dydd y cynllun hwn yn fanylach ac yn rhoi cyfarwyddiadau pellach i ti ar gyfer diwrnod 22 a thu hwnt.


Diwrnod 20

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fy...

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd