Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Ceisio gweledigaethSampl

Visioneering

DYDD 4 O 7

"Mae'n gwbl Ysbrydol"

,

Fel ddwedais i nôl ar ddiwrnod 1, bydd gwreiddiau unrhyw weledigaeth a ordeinir gan Dduw yng ngweledigaeth gyffredinol Duw ar gyfer y byd hwn. Er hynny, dyw rhai pobl ddim yn credu bod i'w gweledigaeth unrhyw arwyddocâd ysbrydol.


Er enghraifft, fe allai rhywun ddweud, " Dydw i ddim yn gobeithio cychwyn eglwys neu weinidogaeth, neu unrhyw beth felly. Dw i'n ceisio dechrau busnes. Beth sydd gan hynny i wneud gyda "‘gweledigaeth gyffredinol Duw ar gyfer y byd’? ”


Os oes gen ti gwestiwn tebyg yn dy feddwl, meddylia am hyn am funud, Dyw Duw ddim yn adrannu ein bywydau.


O bersbectif Duw does dim cydrannau ysbrydol yn herio cydrannau anysbrydol yn dy fywyd. Dyw e ddim yn gwahaniaethu. Does yna ddim adran seciwlar i dy fywyd. Rwyt yn fod ysbrydol. Felly, mae gan bopeth rwyt yn ymwneud ag arlliw ysbrydol. Mae'n dy weld yn gyfannol:


Credai Cristnogion Corinth fod yna ddim cyswllt rhwng eu henaid a'u corff. Roedden nhw'n credu y gallen nhw bechu gyda'u cyrff heb effeithio ar eu henaid. Pwysleisiodd Paul nad oedd rhaniad o'r fath yn bodoli. Dywedodd wrthon nhw eu bod i ogoneddu Duw gyda'u cyrff.


Pan ges ti dy brynu ar Galfaria, prynwyd y cwbl ohoniot: corff, enaid ac ysbryd. Does dim rhaniad. Rwyt i ogoneddu Duw drwy dy weithredoedd, waeth ble maen nhw'n digwydd a pha bynnag rôl rwyt ynddi ar y pryd. Rwyt i ohoneddu Duw fel, priod, rhiant, ffrind, gweithiwr, pennaeth, a dinesydd. Dyw'r hyn rwyt yn ei wneud yn y swyddfa, felly, yn fwy neu'n llai ysbrydol na'r hyn rwyt yn ei wneud yn yr eglwys neu gartref.


O ganlyniad, mae yna elfen ysbrydol i'th weledigaeth, waeth pa gategori o fywyd y mae'n deillio ohono. Nid oes unrhyw weithgareddau seciwlar. Nid yw dy weledigaeth yn bodoli ar wahân i'th gyfrifoldeb i ogoneddu Duw. Y sialens yw darganfod y ddolen.


Treulia beth amser yn myfyrio ar y cwestiwn: Sut all fy Nhad nefol gael ei ogoneddu drwy fy ngweledigaeth?


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Visioneering

Mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Mae rhai pobl yn cyrraedd rhywle ar bwrpas - dyma'r rhai sydd efo gweledigaeth. Ceisio gweledigaeth yw chwilio am y llwybr i wneud breuddwydion yn realiti. Dyma dy wahoddiad i dreu...

More

Hoffem ddiolch i Andy Stanley a WaterBrook & Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2aq2GDf

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd