Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Ceisio gweledigaethSampl

Visioneering

DYDD 1 O 7

"Yr hyn y gwnaed ti ar ei gyfer"


Gad imi ddechrau ein saith diwrnod gyda'n gilydd gyda gwirionedd sylfaenol: Cefais dy greu gan Dduw i bwrpas. Nes byddi'n darganfod ei bwrpas ar dy gyfer - a gweithredu arno - bydd yna dwll yn aros yn dy enaid.


Fel mae Effesiaid 2:10 yn ei ddweud, "Duw sydd wedi'n gwneud ni beth ydyn ni." Paid gollwng gafael ar y
gwirionedd hwn. Gwaedda: "Rwyf yr hyn a wnaed gan Dduw."


Wyt ti'n gwybod beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu dy fod yn wrthrych gweledigaeth Duw. Mae Duw wedi penderfynu beth allet, a dylet fod. Drwy Grist mae e wedi achosi newid, ac yn parhau i achosi newid ynddo ti wrth ystyried y darlun o'r hyn y gallet, a dylet ei fod.


Ond dyw ei weledigaeth ar dy gyfer ddim yn gyflawn am mai Duw sydd â'r weledigaeth honno. Rhaid ei gwneud yn realiti. Felly mae gen ti ran allweddol i'w chwarae. Fel mae Paul yn dweud rwyt wedi dy lunio i wneud gweithredoedd da. Mae'r gweithredoedd da hynny sydd gan Dduw ar dy gyfer yn wahanol i'r rhai ar fy nghyfer i neu unrhyw un arall.


Heb amheuaeth, fedra i ddim dod dros y ffaith fod gan Dduw y bydysawd rywbeth i ni ei wneud. Wedi'r cyfan onid oes ganddo fe bethau eraill i feddwl amdano? Ond mae'r apostol Paul yn ein sicrhau fod Duw wedi paratoi rhwybeth penodol i ni wei wneud.


Mae hyn yn golygu nas oed gen i, na ti, hawl i fyw bywydau diweledigaeth. Os oes gan Dduw weledigaeth ar gyfer y blynyddoedd mae wedi eu rhoi i ni, oni ddylem fynd ati? Dyna drasiedi fyddai methu'r cyfle!


Gweledigaeth Duw yw'r hyn y cefaist ei wneud ar ei gyfer. Yn fwy na hynny, mae ei weledigaeth unigol ar gyfer dy fywyd yn ran bach o gynllun mareddog y gwnaeth e ei ragweld a'i roi ar waith, ymhell cyn i fi, na ti, gael ein geni. Dydw i ddim yn gorliwio un tamaid drwy ddweud y daeth dy weledigaeth di o dragwyddoldeb y gorffennol a bydd ei gyflawni yn dod â chanlyniadau fydd yn para i dragwyddoldeb y dyfodol.


Meddylia am beth mae'n ei olygu i fod yr hyn a wnaed gan Dduw a cheisia ddirnad pwrpas Duw ar dy gyfer.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Visioneering

Mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Mae rhai pobl yn cyrraedd rhywle ar bwrpas - dyma'r rhai sydd efo gweledigaeth. Ceisio gweledigaeth yw chwilio am y llwybr i wneud breuddwydion yn realiti. Dyma dy wahoddiad i dreu...

More

Hoffem ddiolch i Andy Stanley a WaterBrook & Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2aq2GDf

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd