Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae'r Beibl yn FywSampl

La Biblia está viva

DYDD 5 O 7

Mae'r Beibl yn Goroesi'r Tywyllwch

Doedd gan Diya eisiau dim i'w wneud â Christnogaeth. Ond yn 2017, rhannodd ffrind gorau Diya ei thystiolaeth yn ei heglwys yn Seland Newydd. Aeth Diya yna i ddangos cefnogaeth... a daliodd ati i fynychu. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno cyflwynodd ei bywyd i Iesu, ychydig cyn symud i India.

Roedd llywio drwy ffydd newydd mewn gwlad newydd heb gymuned Gristnogol yn flinedig, ac yn y diwedd daeth Diya mor ddigalon nes iddi stryglo i godi o'r gwely bob dydd.

"ro'n i mor unig ac ro'n i'n ei chael hi'n anodd cysylltu â bobl. Collais lot o'm ymreolaeth ac annibyniaeth pan symudais i India, ac aeth llawer o feddyliau gwenwynig drwy fy meddwl. Ond dim ond pan y llwyddais i gysylltu â'r Ysgrythur yn YouVersion nes allu newid y ffordd dw i'n meddwl."

Darparodd YouVersion fforddi Diya aros mewn cysylltiad â Christnogion eraill a dysgu ganddyn nhw drwy Gynlluniau Beibl. Ers 2018 mae hi wedi cwblhau dros 428 ohonyn nhw

Unrhyw bryd mae yna gwestiwn gan Diya mae hi'n agor ei ap YouVersion a chwilio am Gynlluniau ar y pwnc hwnnw. Po fwyaf o gynlluniau mae hi'n ddarllen, y mwyaf mae ei ffydd yn tyfu.

 

"Rhai dyddiau fe wna i ddechrau 11 Cynllun i geisio trwytho fy hun yn y gwirionedd. Mae'n gyfle i ddysgu gan bobl sydd wedi cerdded yr un llwybr ac i gael anogaeth ganddyn nhw. Dw i wedi dysgu nad ydw i ar ben fy hun yn y strygl. Dw i'n gallu clywed gan bobl sydd wedi profi iselder a chyrraedd yr ochr arall, ac mae wedi helpu imi sylweddoli fod dilynwyr Crist yn stryglo gydag iechyd meddwl hefyd."

Nawr, unrhyw bryd y bydd Diya yn teimlo'n isel, neu'n ynysig, mae'n gallu glynu wrth addewidion Duw a thalu sylw i beth sydd gan Iesu i ddweud amdani.

"Weithiau, pan mae rhywun yn isel, gair yn unig sydd ei angen. Roedd yr ap yn 'lwybr byr' wnaeth fy helpu i ddeall y Beibl a'm ffydd. Mae technoleg yn declyn mor cwl dŷn ni'n gallu ei ddefnyddio i gysylltu â'n ffydd. Dw i ddim yn meddwl y baswn i dal yma os nad oedd gen i ffordd i gysylltu drwy Grist, oherwydd roedd y cyfnodau hynny'n rhai tywyll ac e oedd yr unig ffynhonnell o olau oedd gen i - a sydd dal gen i."

Oherwydd pŵer Gair Duw, gall bod yn ynysig gael ei drawsnewid i gysylltiad, a gall gobaith ddod i'r golwg ynghanol trallod.

Myfyria ar stori Diya am foment, a threulia ychydig amser yn siarad i Dduw am y tymor rwyt ynddo ar hyn o bryd. Wrth iti wneud hyn, gofynna i Dduw ddatgelu beth sy'n wir am dy sefyllfa, ac yna chwilia'r Ysgrythurau am ei eiriau o obaith ac anogaeth. Caniata i'w olau oroesi'r tywyllwch yn dy fywyd.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

La Biblia está viva

Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosac...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd