Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae'r Beibl yn FywSampl

La Biblia está viva

DYDD 3 O 7

Mae'r Beibl yn Trawsnewid Cenhedloedd

Y 1800au cynnar yw hi. Mae bachgen o Nigeria a'i deulu yn cael eu cipio o'u cartref a'u gorfodi i fynd ar long gaethwasiaeth o Portiwgal sydd ar ei ffordd i America. Ond cyn bod y llong yn gadael arfordir Affrica mae patrôl gwrth-gaethwasiaeth yn cynnal cyrch ac arestio'r masnachwyr. Mae'r bachgen a'i deulu'n cael eu rhyddhau a'u hanfon i Sierra Leone. Yma mae e'n darganfod pŵer y Beibl.


Ar ôl dod yn Gristion dechreuodd Samuel Ajayi Crowther ddysgu nifer o ieithoedd a mynd ar ymgyrchoedd cenhadol i wledydd gerllaw Sierra Leone. Ond yr holl amser hwn, roedd yn astudio’r Beibl yn Saesneg oherwydd nad oedd yn bodoli yn Yoruba - ei iaith frodorol yn Nigeria.


Roedd hyn yn golygu na allai pobl oedd yn byw yn Nigeria ac yn methu siarad Saesneg yn gallu darllen y Beibl droson nhw eu hunain. Felly helpodd Ajayl i greu system ramadeg ysgrifenedig ar gyfer Yoruba ac yna gyfieithu'r Beibl i'r iaith honno.


Unwaith iddo orffen y Beibl mewn Yoruba parhaodd i gyfieithu'r Ysgrythur i ieithoedd brodorol eraill Nigeria fel bod mwy o bobol yn gallu darganfod y newid mewn bywyd roedd e wedi'i brofi.


Yn ddiweddarach etholwyd Crowther yn "Esgob Niger" gan yr Eglwys Anglicanaidd gan ei wneud yr esgob Anglicanaidd du cyntaf. A heddiw, Eglwys Anglicanaidd Nigeria yw'r ail dalaith Anglicanaidd fwyaf gyda dros 18 miliwn o aelodau wedi'u bedyddio.


Mae'r un Duw weithiodd drwy Crowther eisiau gweithio drwyddo ti i effeithio ar y byd trwy ei Air. Mae yna bobl yn aros i gael eu trawsnewid gan y Beibl, a rwyt ti mewn sefyllfa perffaith i'w cyrraedd.


Felly heddiw, gofynna di i Dduw ddatgelu’r rôl y gelli di ei chwarae n y stori y mae’n ei hadrodd, a gwylia arno'n gwneud mwy drwy dy fywyd na’r cyfan y gallwch di ei ofyn, ei feddwl, neu ei ddychmygu.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

La Biblia está viva

Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosac...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd