Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Grym Anghyffredin Moliant: Defosiwn 5 Diwrnod o'r SalmauSampl

The Extraordinary Power of Praise: A 5 Day Devotional From the Psalms

DYDD 4 O 5

Mae moli Duw yn Meithrin Bodlonrwydd



Mae hi mor hawdd, yn ein diwylliant presennol, i gwyno dros beth sydd ddim gynnon ni. Dŷn ni’n cymharu ein sefyllfa i’n ffrindiau ac yn teimlo fel bod ganddyn nhw fywyd cymaint gwell na ni. Yn ein hanfodlonrwydd dŷn ni’n dechrau grwgnach a chwyno. Sgwennodd Dafydd, “Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen” (Salm 23, adnod 1). Mewn Salm arall sgwennodd, “Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau. Mae fy nyfodol i yn dy law di” (Salm 16, adnod 5).



Beth ddaeth â Dafydd i’r lle dwfn parchus a bodlon hwn? Dw i’n credu mai’r rheswm oedd ei ddewis i foli Duw’n ddiddiwedd. Pan dŷn ni’n cymharu a chwyno dŷn ni’n diwreiddio ein bodlonrwydd. Fodd bynnag mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. Po fwyaf dŷn ni’n moli ac addoli Duw, po fwyaf y byddwn wedi gwirioni ag e. Po fwyaf y byddwn yn diolch iddo, po fwyaf y byddwn yn ddiolchgar iddo. Po fwyaf y byddwn yn dangos ein cariad, po fwyaf y byddwn yn syrthio mewn cariad ag e. Yn raddol daw’r sylweddoliad ei fod e’n fwy na digon. Dŷn ni’n gallu adleisio geiriau Dafydd a chyda dilysrwydd yn gallu dweud, “Mae gen i bopeth dw i angen!”



Pam na wnei di drio ei foli am chwarter awr bob dydd dros y pum niwrnod nesaf? Gelli di restru’r nodweddion cymeriad rwyt yn ddiolchgar amdanyn nhw. Neu, gelli ddefnyddio cerddoriaeth addoliad i annog dy foli. Dydy e ddim o bwys sut wyt ti’n gwneud. Tria addoli a gweld beth sy’n digwydd.



Sela - Oeda a Myfyria:Wyt ti’n berson sy’n tueddu i gymharu a chwyno? Sut olwg fydde ar bethau petai ti’n gallu dangos dy fod yn fodlon gydag Iesu ac yn gallu dweud gyda dilysrwydd, ““Mae gen i bopeth dw i angen!?”



Gweddi o Foliant: Sanctaidd Un, dw i’n dy foli dy fod yn ddigonol ac yn Dduw sy’n cynnal. Does dim nad oes gen ti ac rwyt wedi addo darparu imi bopeth dw i angen. Dw i’n dy foli am fod fy nyfodol i yn dy law. Ynot ti dw i’n ffeindio boddhad heddychlon sydd tu hwnt i bob dealltwriaeth am fy mod i’n sylweddoli dy fod yn Dduw a hael a chariadus. Dw i’n ffeindio’r cyfan dw i eisiau ynot ti. Diolch mod i’n gallu ymlacio a theimlo’n ddiogel ynot ti am fod gen ti bopeth dan reolaeth. Dw i’n dy foli ac addoli fel fy Nuw sanctaidd a digonol.



Salm 16, adnod 5, “Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau. Mae fy nyfodol i yn dy law di.”


Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

The Extraordinary Power of Praise: A 5 Day Devotional From the Psalms

Mae pryder, ofn, unigrwydd ac iselder wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Doedd y emosiynau hyn ddim yn ddieithr i'r Salmyddion. Fodd bynnag, dysgon nhw sut i ryddhau pŵer rhyfeddol o ganmoliaeth i ...

More

Hoffem ddiolch i Moody Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.moodypublishers.com/the-extraordinary-power-of-praise/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd