Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Grym Anghyffredin Moliant: Defosiwn 5 Diwrnod o'r SalmauSampl

The Extraordinary Power of Praise: A 5 Day Devotional From the Psalms

DYDD 1 O 5

Mae moli Duw’n tawelu ein Hofn



Teimlodd 2020 fel blwyddyn dywyll i lawer. Rheibiodd COVID-19 y ddaear gyfan. Collodd llawer deulu, swyddi, a chartrefi. Roedd bywyd yn teimlo’n ddu wrth i ni wrando ar adroddiadau newyddion am anghyfiawnder hiliol, terfysgoedd, polareiddio gwleidyddol a saethu torfol. Cynyddodd ofn a phryder mewn niferoedd enfawr.



Fe wnaeth Dafydd, y Salmydd, fyw drwy sefyllfaoedd tywyll hefyd. Nid pandemig byd-eang oedd ei elyn ond brenin cenfigennus drïodd ladd Dafydd sawl gwaith. Pan oedd Dafydd yn teimlo ofn, tywalltodd ei galon allan i Dduw ac yna droi ei ffocws tuag at foli Duw. Mae’r patrwm yma i’w weld drwy’i fywyd cyfan.



Yn dy fywyd di a minnau, mae ofn yn ymateb naturiol pan mae bywyd yn teimlo’n dywyll. Yn hytrach na gwadu ein hofn, mae Duw’n ein gwahodd i dywallt ein calonnau o’i flaen ac yna droi ein ffocws tuag at addoli. Wrth i ni foli Duw am ei gymeriad hollalluog, mae’r Ysbryd Glân yn tawelu ein hofn ac yn deffro ein meddyliau i adnabod presenoldeb Duw’n well. Mae moli Duw’n rhyddhau ffydd newydd sy’n cael gwared ar amheuaeth, hyder adnewyddol sy’n disodli ofn, a thawelwch rhyfeddol sy’n disodli pryder. Y gwir amdani yw, fedri di ddim moli Duw heb gael dy newid.



Sela - Oeda a Myfyria: Drwy lyfr y Salmau yn gyfan dŷn ni’n gweld y gair Sela sy’n golygu oeda a myfyria. Cymra funud neu dda i oedi a myfyrio. Pan mae bywyd yn teimlo’n dywyll beth yw dy ffordd o ymdopi?



Gweddi o Foliant: Arglwydd Iesu, Dw i’n dy foli gan mai ti yw fy
ngoleuni a’m hiachawdwriaeth. Dw i’n dy foli, oherwydd pan dw i’n teimlo’n ofnus. Rwyt ti’n fy ngwahodd i ddod â’m holl ofn at dy draed. Diolch na all tywyllwch fy amgylchiadau yn gallu llethu golau dy bresenoldeb gogoneddus. Dw i’n dy addoli di fel y Golau sy’n disgleirio yn y tywyllwch. Dw i’n dy foli di gan mai ti hefyd yw fy nghadarnle a lle diogel ble dw i’n gallu dianc iddo’n ddiddiwedd. Hyd yn oed nawr, yn yr amseroedd ofnus hyn, mae dy bresenoldeb yn castellu o’m cwmpas i. Dw i’n dy foli di am yr hyder sy’n codi o’m mewn wrth i mi dy foli’n ffyddlon, O Arglwydd fy Nuw. Ti, yn unig, sy’n haeddu fy nghlod.



Salm 27, adnod 1, “Mae'r ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i; does gen i ofn neb. Mae'r ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i, does neb yn fy nychryn.


Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Extraordinary Power of Praise: A 5 Day Devotional From the Psalms

Mae pryder, ofn, unigrwydd ac iselder wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Doedd y emosiynau hyn ddim yn ddieithr i'r Salmyddion. Fodd bynnag, dysgon nhw sut i ryddhau pŵer rhyfeddol o ganmoliaeth i ...

More

Hoffem ddiolch i Moody Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.moodypublishers.com/the-extraordinary-power-of-praise/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd