Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Caru Fel IesuSampl

Love Like Jesus

DYDD 8 O 13

Bod yn Ffrind


Roedd gen i gydweithiwr newydd beth amser yn ôl oedd wirioneddol am fod yn ffrindiau efo mi. Yn lle ei chroesawu ar y tîm doeddwn i ddim yn garedig iawn. I ddweud y gwir, weithiau, ro'n i'n gas iawn. Ro'n i'n fodlon cwrdd â hi weithiau, ond dim ond pan oedd e'n gyfleus i mi.


Aeth rhai misoedd heibio a chafodd fy nhad diagnosis cancr. Buan iawn y ffeindiais fy hun mewn hosbis yn ystod dyddiau olaf ei fywyd. Wnaeth hyn y person doeddwn i ddim wedi'i chydnabod bron, nid yn unig, weddïo'n ystod y tymor dychrynllyd hwn, ond arhosodd ar y ffôn gyda fi, bob nos, nes o'n i wedi blino digon i fynd i gysgu. Coginiodd fy hoff bryd o fwyd cyn i mi fynd ar yr awyren. Trefnodd barsel gyda gweddill fy nghydweithwyr i anfon i mi. A phan ddychwelais i'r gwaith roedd hi'n fodlon bod ar gael, unrhyw bryd, i mi gael siarad neu grio.


Roedd hi'n ffrind cyn imi sylweddoli mod i angen un. Roedd hi'n pryderu drosta i pan nad oedd gen i bryder drosti hi. Fe wnaeth hi fy ngharu i pan o'n i ddim yn haeddu cariad.


O'n i'n meddwl mod i'n gwybod beth oedd cariad diamod. Ro'n i'n,meddwl mod i'n gwybod sut roedd Iesu'n ein caru ni, ac fel drodd pethau allan, ro'n i'n hollol anghywir. Am ryw reswm ro'n i'n meddwl ein bod ni'n ennill cariad diamod. Fel dŷn ni'n dechrau caru pobl yn amodol, byddai hynny mewn amser yn troi'n ddiamodol. Ond nid dyna'r ffordd mae Duw'n ein caru ni. Bu farw ef droson ni pan oedden ni'n dal yn bechaduriaid. Mae Duw yn fy ngweld i'n haeddiannol o gariad, hyd yn oed pan nad ydw i'n ei haeddu. Mae e'n fy ngharu'n ddiamodol o'r dechrau cyntaf, a dyna'r ffordd mae e'n ein galw i garu eraill.


Mae'r ffrind honno'n fy ngharu'n union fel mae Iesu'n caru. Dw i eisiau caru fel yna.


Sam Simala
Life.Church Wichita


Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Love Like Jesus

Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd