Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Caru Fel IesuSampl

Love Like Jesus

DYDD 7 O 13

Ciwio yn y Banc


Dw i wastad wedi fy nrysu gan statws cymdeithasol. Pam ein bod, fel dynoliaeth, yn gosod rai bobl uwchben rai eraill? Mae nifer o ffactorau'n gallu dylanwadu safle rywun ar ris cymdeithasol.: enwogrwydd, cyfoeth, galluoedd, prydferthwch, personoliaeth, teitl, etifeddiaeth, a.y.y.b.


Mae hi'n siŵr mai'r ysgol uwchradd oedd y lle cyntaf i mi sylweddoli bod gwahanol raddau o boblogrwydd, ond ers bod yn oedolyn dw i'n parhau i sylwi fod y tyrfaoedd yn rhannol anwybyddu rhai ac yn anwybyddu eraill ar y cyd. Dŷn ni'n graddio ni'n hunain gan roi rhai o flaen rhai eraill.


Yn fy mlwyddyn gyntaf, yn dilyn symud i ddinas fawr, yn ft annoethineb dewisais fynd i dynnu arian o beiriant twll yn y wal ar ddydd Sadwrn. Ro'n i ar fy ffordd i ddêt, ro'n i gobeithio creu argraff arno, a cymrais fy lle mewn ciw o bobl diamynedd oedd angen arian ar gyfer y penwythnos. A minnau breuddwydio wnes i ddim sylwi ar unwaith ar y cynnwrf oedd ar y flaen y ciw o ryw 8 o bobl. Yno, roedd merch hir-wallt yn brwydro i reoli'i hemosiwn a gorffen defnyddio'r peiriant. Syllais ar y ferch, ac yna ar y pobl yn y rhes o mlaen a thu ôl i mi. Cefais fy anwybyddu gan bawb ac yn barchus (neu'n ddiamynedd am wn i) cafodd y ferch oedd mewn trafferthion ei hanwybyddu hefyd. Canslodd y ferch ei gweithrediad, troi aton ni a dweud, "Dw i newydd golli nhad." Roedd e'n fwy o esboniad nac ymddiheuriad. Pan wnaeth neb ymateb, cerddodd draw am y maes parcio'n dal i grio. Edrychais o gwmpas am rywun i helpu, gan feddwl y dylai rywun wneud rywbeth. Er mawr cywilydd i mi, y rheswm arhosais yn y fan ar lle oedd, doeddwn i ddim eisiau colli fy lle yn y ciw, oedd yn cynyddu wrth y funud.


Pa mor aml fyddwn ni'n rhoi ein hagenda ein hunain o flaen caru bobol fel mae Iesu'n ein galw? Pa mor aml fyddwn ni'n anwybyddu'r rheiny sy'n werthfawr i Grist am ein bod ni'n arwynebol wrth benderfynu eu gwerth? Ar y funud honno wrth y peiriant twll yn y wal roedd gen i rywle i fod a rywun i greu argraff arnyn nhw. Roedd y ferch yma'n golygu dim bys i mi, ac yn fy hunanoldeb heb dim amser i'w roi iddi hi. Ond dydy Crist ddim yn ein galw ni i fod i'w wasanaethu dim ond pan mae hi'n gyfleus i ni. Dydy e ddim yn gofyn i ni wasanaethu'r rheiny dŷn ni'n meddwl sy'n haeddu ein sylw - ac yn datgan er gwaethaf ein labeli arwynebol, bydd y cyntaf yn olaf ar olaf yn flaenaf.


Roedd y ferch alarus nawr yn brwydro i agor drws y car, a theimlais fy hun yn rhedeg ati hi. Roedd hi wedi troi'n flaenoriaeth i mi wrth i'm calon lenwi gyda thosturi tuag ati hi. Wrth iddi edrych arna i mewn syndod cynigais fy nghydymdeimlad, "Mae'n wir ddrwg gen i." Torrodd allan i grio eto wrth i mi ei chofleidio. Ar ôl munud neu ddau tawelodd, diolch i mi, cyn mynd i mewn i'w char a gyrru i ffwrdd. Cerddais nôl am y peiriant twll yn y wal, ble roedd y bobl yn fy anwybyddu a chwarae ar eu ffonau symudol.


Cymerais fy lle ar gefn y ciw.


Beth Castle
Cyfryngau Creadigol Life.Church (Priod)


Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Love Like Jesus

Sut allwn ni ddysgu i fyw fel Iesu heb ein bod, yn gyntaf, wedi dysgu caru fel e? Darllena gyda staff Life.Church a'u gwŷr 'u gwragedd wrth iddyn nhw ddwyn i gof profiadau a darlleniadau o'r Ysgrythur sy'n eu helpu i fyw...

More

Diolch i LifeChurch.tv am greu y cynllun yma. Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.lifechurch.tv

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd