Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dduw, beth amdana i?Sampl

God, What About Me?

DYDD 4 O 5

Ydy fy ngweddïau yn gweithio?



Wyt ti erioed wedi dy gyflwyno gyda rhywbeth a dy ymateb oedd, “Nid HWN wnes i ymprydio amdano!" Wnes di wrthod bwyd, a gweddïo, crïo, ac ar ôl hynny i gyd, roedd y canlyniad yn hollol i’r gwrthwyneb i’r hyn roeddet ti’n gweddïo amdano. Gall profiad fel hyn wneud i ni gwestiynu os dylen ni jyst stopio gweddïo a dibynnu Ar bethau eraill neu mae o’n gallu achosi i ni weddïo dros bethau “diogel” sydd ddim yn cynyddu ein ffydd.



Y gwirionedd yw, dydy Duw ddim angen i ni amddiffyn ei enw da drwy ofyn iddo am y pethau sy’n saff neu syml. Gyda’r meddylfryd yma, dŷn ni’n tynnu llinell derfyn ar allu Duw i wneud yr amhosibl ac i wirioneddol ddangos ei ogoniant a phŵer i’r byd. Dangosodd Duw i mi, pan dw i’n gweddïo am y pethau dw i eu heisiau, yn fach neu fawr, dw i’n credu go iawn ei fod yn Dduw galluog ac ewyllysgar. Dw i hefyd yn paratoi fy nghalon i roi’r diolch iddo mae’n ei haeddu. Wnaeth Duw hefyd fy rhybuddio, fawr ddim amser yn ôl, i fod yn ofalus o’m siomiant wrth weddïo. Wnaeth Duw ddangos i mi y gall hyn fod hyn yn rhwystr yn fy ngweddïau. Mae Duw yn siŵr o ateb, ac er na fydd yn ateb fel o’n i’n disgwyl, dw i’n gwybod y bydd yn cael ei ogoneddu fel mae’n dweud yn ei air.



Fedrwn ni ddim fforddio caniatáu i’n hemosiynau arwain ni yn ein gweddau. Gall ein hemosiynau ein harwain i weddi weddïo am ddinistriad bwy bynnag sydd “tu ôl” i’r sefyllfa. Fodd bynnag, pan dŷn ni’n chwilio am wybodaeth am ein sefyllfa gan Dduw, byddwn yn gwybod os yw'n ganlyniad i'r gelyn neu yn gerddorfa ddwyfol i Dad hollwybodus nerthol.



Er enghraifft, Iesu Grist yng ngardd Gethsemane: tra oedd yn gweddïo, doedd e ddim yn gweddïo yn erbyn y Phariseaid, neu Jwdas a oedd yn ymddangos i fod “y tu ôl” i gael ei fradychu. Roedd ei weddi yn canolbwyntio ar ewyllys Duw, hyd yn oed yn ei boen.



Felly'r cwestiwn ddylai fod ydy, er EWYLLYS pwy mae eich gweddïau yn gweithio?


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

God, What About Me?

Pan dŷn ni’n teimlo fel ein bod ni ar ei hôl hi mewn bywyd ac mae llais cymhariaeth yn cryfhau wrth i’r dyddiau fynd yn eu blaen, dŷn ni’n aml yn methu gweld bod Duw’n symud yn ein plith. Yn yr eiliadau hyn mae ein ffydd...

More

Hoffem ddiolch i David & Ella am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://davidnella.com

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd