Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Newid Bywyd: Cofleidio HunaniaethSampl

Living Changed: Embracing Identity

DYDD 4 O 6

Dewis bod yn rhan o’i Gynllun.



Pan fyddwn yn cytuno â’r labeli sy’n cael eu neilltuo i ni neu gredu nad ydyn ni’n cyrraedd y nod, dŷn ni’n colli allan ar y bywyd hyfryd mae Duw eisiau i ni ei fyw. Fe greodd bob un ohonom gyda chymysgfa arbennig o rinweddau, cryfderau, a thalentau, ac mae e’n gobeithio y byddwn ni’n dewis i’w defnyddio er mwyn ei deyrnas. Fodd bynnag, pan dŷn ni wedi ffocysu gormod ar ein diffygion, gall y meddyliau negyddol ac emosiynau hynny, yn hawdd iawn dynnu ein sylw oddi wrth ei bwrpas ar ein cyfer.



Flynyddoedd yn ôl glywes i am astudiaeth Feiblaidd i ferched ro’n o eisiau ei fynychu. Ro’n i’n teimlo mor hunanymwybodol bu bron imi beidio mynd. Mi ddwedes i wrth fy hun nad oedden nhw eisiau mam oedd yn aros gartref a thros ei phwysau ac ân fyddai’n gallu cyfrannu fawr ddim i’r drafodaeth a ddim yn gwybod fawr ddim am y Beibl. Rywsut wnes i oroesi’r ofnau a mynd beth bynnag. Fel mae e'n gwneud wastad, defnyddiodd Duw'r cam bach yna o ildio i ddechrau trawsnewidiad ynddo i. Helpiodd fi i weld fy ngwerth a gwella fy hunanddelwedd.



Yr hyn na wnes i sylweddoli ar y pryd oedd bod Duw’n gofyn imi ei drystio, fel mod i’n gallu gwneud yr un peth maes o law. Dim ond pan o’n i wedi ildio fy niffygion iddo o’n i’n gallu camu i mewn i’r hyn o’n i wedi fy ngalw. I ddweud y gwir, yr hyn wnes i ei ddysgu yn yr astudiaeth Feiblaidd yna oedd yr union gynnwys wnes i ei ddefnyddio ar ôl dechrau dysgu. Pe bawn i wedi gadael i fy ofnau fy rhwystro rhag mynd y diwrnod hwnnw, byddai fy mywyd a’m cenhadaeth wedi bod yn sylweddol wahanol. Efallai y byddai dyfodol rhywun yn edrych yn wahanol.



Mae adnabod ein hunain yng Nghrist yn rhoi Dduw-hyder i ni. Dydy e ddim oherwydd bod yr amherffeithrwydd sy'n achosi ein hansicrwydd yn diflannu, ond oherwydd ein bod yn sylweddoli bod ein gwendidau wedi'u gwneud yn berffaith yn ei gryfder. Yn wir, dydy Duw ddim yn disgwyl i ni fod yn ddi-fai. Mae e’n arbenigo mewn defnyddio pobl sy’n annheilwng, annigonol, ac analluog. Drwy’r Beibl cyfan mae'n gweithio trwy bobl amherffaith o wahanol hil, rhyw, ac oedran i gyflawni ei ewyllys. Yn ei lygaid e does dim yn ein gwneud yn anghymwys. Dim ond ni all greu rhwystrau. Dŷn ni’n cael y dewis i adael Duw ein diffinio a bod yn rhan o’i gynllun, neu ganiatáu eraill i’n diffinio a methu cyfle i effeithio dyfodol eraill.



Cam i’w Gymryd:



Ystyria am ennyd sut mae’r celwyddau amdanat ti dy hun yn dy gadw rhag clywed arweiniad Duw ar gyfer dy fywyd. Wyt ti’n gwrando mwy ar farn a disgwyliadau eraill o’th gwmpas, neu wyt ti’n gwrando’n astud ar lais Duw’n dy galon? Paid methu allan at bwrpas Duw ar gyfer dy fywyd am fod dy hunaniaeth wedi’i gamleoli. Gofynna i Dduw i garthu’r celwyddau allan o’th galon. Gad iddo e ddangos iti sut elli di ddysgu tyfu ei Deyrnas. Mae gen ti le arbennig yn ei galon a rôl hanfodol i’w chwarae yn ei gynllun.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Living Changed: Embracing Identity

Gyda chymaint o leisiau yn dweud wrthym ni pwy i fod, does dim syndod ein bos yn stryglo gyda ble mae ein hunaniaeth. Dydy Duw ddim am i ni gael ein diffinio gan ein gyrfa, statws priodasol, na’n camgymeriadau. Mae e eis...

More

Hoffem ddiolch i Changed Women Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.changedokc.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd