Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Newid Bywyd: Cofleidio HunaniaethSampl

Living Changed: Embracing Identity

DYDD 1 O 6

Newid ein Llais Mewnol



Pan mae angen i ti gyflwyno dy hun, beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl?



Doedd y llais mewnol ddim wastad yn adlewyrchiad cywir o’r ddynes roedd Duw am imi fod. Heb ei help e i newid fy llais mewnol, byddai fy ateb wedi bod rhywbeth fel hyn, “Dw i’n fam 45 mlwydd oed gyda dau o blant a dw i ddim mor ifanc ac arferwn i fod ac mae gen i wallt gwyn a chrychau i brofi hynny. Dw i wedi bod yn briod bron i 25 mlynedd, er mod i’n gweiddi llawer gormod. Yn ôl fy noctor, dw i dros fy mhwysau, dw i’n colli fy ngwynt wrth redeg, ac mae’n well gen i bethau melys a chreision, yn hytrach na sbigoglys. Dw i’n weinidog ar eglwys, ond dw i’n gwbl anaddas ac mae gen i ormod yn fy ngorffennol i fod yn effeithiol yn y weinidogaeth.”



Tra byddai’r ateb yna’n iawn ar gyfer fy statws priodasol, pwysau, rhyw, oed, swydd, a rhai o’r celwyddau mae’r byd yn dweud wrthyf am, dydy e ddim yn disgrifio pwy ydw i go iawn. Tra bod rhai o’r pethau hynny’n wir amdana i, dydyn nhw ddim gwirioneddol o bwys. Yn syml, amgylchiadau ydyn nhw, ac nid fy hunaniaeth.



Y gwir amdani, i ddechrau yw, fy mod yn blentyn i Dduw. Cefais fy ngwneud ar bwrpas ac i bwrpas. Dw i’n gampwaith hyfryd, wedi fy ngwau at ei gilydd gan Creawdwr y bydysawd. Dw i’n gwybod hynny nawr, ond wnaeth y trawsnewid o’r ymateb cyntaf i’r ail ddim digwydd dros nos.



Pan ges i fy ngalw i weinidogaethu gyntaf, dros ferched, doeddwn i ddim mewn lle da. Roedd sefyll ar lwyfan a dweud wrth ferched eu bod wedi’u creu ar ddelw Duw yn eithriadol o anodd, pan nad oeddwn i’n ei gredu amdanaf fy hun. Wnes i ofyn i Dduw beth oedd e’n ei weld wrth edrych arna i, ac mi wnes i drystio ei allu i newid fy safbwynt.



Ar ôl blynyddoedd o ymarfer ildio a thrystio, dw i nawr, yn abl i weld fy hun yn ddel. Dydy e ddim yn dibynnu ar yr hyn sydd i’w weld yn y drych. Mae’n dod o heddwch mewnol derbyn nad yw e’n gwneud camgymeriadau. Mae’n ddigon ei fod wedi fy nghreu i a’m gwneud yn ddel.



Mae cofleidio’r hyn mae Duw’n ei ddweud ydym ni’n newid ein hyder. Mae gwybod ei fod e’n dda a’n bod ni wedi’n creu’n union fel roedd e wedi’i fwriadu, yn rhoi bywyd. Pan dŷn ni’n sylweddoli gymaint mae e’n ein caru ni, am bwy ydym ni, mae’n haws i ni garu ein hunain yn well. Dydy newid ein llais mewnol ddim yn digwydd ar unwaith, a fedrwn ni mo’i wneud ar ben ein hunain. Rhaid i ni ofyn iddo e am help.



Cam i’w Gymryd:



Os wyt ti’n stryglo gyda hunaniaeth, gofynna i Dduw ddangos i ti sut mae e’n dy weld.
Gofynna iddo dy helpu i weld y celwyddau rwyt wedi’u credu amdanat dy hun a dechrau ffeirio’r celwyddau gyda’i wirionedd e. Bydd e yna gyda thi, waeth pa mor hir wnaiff hi gymryd, dro ar ôl tro, hyd nes y byddi’n credu dy fod yn deilwng, del, yn alluog, a chariadus. Waeth pa mor hir rwyt ti wedi dilyn Iesu, os yw dy hunan-siarad yn llai na'r hyn y mae'n ei ddweud amdanat ti, yna mae gwaith i'w wneud. Pwysa ar Dduw a gofyn iddo dy helpu i gofleidio dy hunaniaeth yng Nghrist.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Living Changed: Embracing Identity

Gyda chymaint o leisiau yn dweud wrthym ni pwy i fod, does dim syndod ein bos yn stryglo gyda ble mae ein hunaniaeth. Dydy Duw ddim am i ni gael ein diffinio gan ein gyrfa, statws priodasol, na’n camgymeriadau. Mae e eis...

More

Hoffem ddiolch i Changed Women Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.changedokc.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd