Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dod o hyd i orffwysSampl

Finding Rest

DYDD 3 O 5

Dod o hyd i le i Ffocysu

Trawsnewidiad- proses o newid dwys mewn cymeriad, cyflwr neu gyfansoddiad.


Yn Rhufeiniaid pennod 12, mae Paul yn ein hannog i adnewyddu ein meddyliau. Mae’r adnewyddiad yn broses parhaus, gweithgaredd bwriadol ble dŷn ni’n cau ein hunain i ffwrdd oddi wrth y rhwystrau a’r dylanwadau sy’n ein hamgylchynu bob dydd yn union fel y modelodd Iesu ar ein cyfer.


Mae’n bwysig i ddod o hyd i le tawel ble gallwn adnewyddu ein calonnau a’n meddyliau i’r hyn mae Duw’n ei wneud. Ble wyt ti’n ffocysu orau? Mewn cornel dawel o’r gegin gyda choffi? Pan wyt allan yn rhedeg, gwrando ar gerddoriaeth mawl? Tyrd o hyd i rywle sy’n gwneud i ti deimlo’n agos at Dduw. Yna, gwna arfer o fynd i’r man hwnnw bob dydd i ail ffocysu dy feddwl arno e.


Myfyrdod: Heddiw, yn dy le tawel, cymra 5-10 munud i feddwl am bethau sydd falle’n dy boeni di. Pob tro y byddi’n meddwl am un, cyflwyna e i Iesu mewn gweddi, (mae’n helpu i’w sgwennu i lawr.)


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Finding Rest

Mae astudiaeth ar ôl astudiaeth yn dweud wrthym fod gorffwys yn gritigol ar gyfer ein hiechyd corfforol, meddyliol, ac emosiynol. Mae gorffwys mor bwysig fel bod Duw, hyd yn oed, wedi’i wneud yn un o’i orchmynion. Dŷn ni...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol hwn ei greu a’i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd