Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith Bywyd - Camu tua'r PasgSampl

Living Hope: A Countdown to Easter

DYDD 2 O 3

"Bydd yn gryf a dewr."


Dydy'r Beibl yn dweud fawr dim wrthon ni am y cyfnod rhwng marwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. Ond dŷn ni'n gwybod ei fod wedi digwydd adeg dathliad y Pasg, dathliad wythnos i gofio pan ryddhaodd Duw'r Israeliaid o gaethwasiaeth.


Yn ystod y dathliad byddai Iddewon yn dathlu drwy gael pryd o fwyd â'i gilydd ac yn aberthu ŵyn perffaith yn y deml cyn paratoi i orffwys ar y Saboth. Y diwrnod cyn y Saboth rhoddwyd corff Iesu i orwedd y tu mewn i’r bedd.


Dychmyga fod yn un o ddisgyblion Iesu pan oedd hyn yn digwydd. Nid yn unig roedd un o'th ffrindiau agosaf wedi cael ei ladd ar gam, ond doeddet ti'n methu galaru'n iawn nes oedd y diwrnod o orffwys wedi pasio.


Yr hyn wnaeth y disgyblion mo'i sylweddoli ar y pryd oedd bod y boen ro'n nhw'n ei phrofi yn rhan o stori fwy - cynllun i'n hadbrynu ni i gyd. Gallai Duw weld yr atgyfodiad yn dod, er na allai'r disgyblion wneud hynny.


Mae gorffwys yn ein hatgoffa fod Duw'n Arglwydd dros bob sefyllfa. Ac mae gorffwys yn caniatau i ni ailffocysu ar yr hyn sydd bwysicaf: yr un sy'n addo darparu'r cwbl dŷn ni ei angen. Pan fyddwn yn dewis bod yn llonydd ynghanol caledi, dŷn ni'n dewis i addoli Duw.


Felly, waeth bynnag beth sy'n digwydd 'th gwmpas heddiw, dewisa i orffwys yn Nuw - hyd yn oed os ydy'r byd o'th gwmpas yn dewis poeni. Does dim yn amhosib iddo e.


Gweddïa:Iesu, helpa fi heddiw i orffwys ynddo ti. Dw i'n gwybod dy fod yn fwy na dim sy'n digwydd o'm cwmpas i. Mae fy ngobaith ynot ti'n unig oherwydd ti yw fy iachawdwriaeth. Dw i'n credu dy fod wedi ateb cri fy nghalon, er fy mod yn dal i ddisgwyl am atebion. Felly, heddiw, dw i'n dewis hoelio fy sylw arnat ti. Yn enw Iesu. Amen.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Living Hope: A Countdown to Easter

Pan fydd tywyllwch yn dy amgylchynu sut ddylet ti ymateb? Am y tri diwrnod nesaf trocha dy hun yn stori'r Pasg a darganfydda sut i ddal gafael mewn gobaith pan wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy adael, ar ben dy hun, neu...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd