Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith Bywyd - Camu tua'r PasgSampl

Living Hope: A Countdown to Easter

DYDD 1 O 3

"Pam rwyt ti wedi troi dy gefn arna i?"


Dychmyga dy fod yn edrych ar Iesu'n hongian ar y groes. Yr unig ffordd mae e'n gallu anadlu yw drwy wthio'i hun i fyny drwy ddefnyddio'r hoelion yn ei arddyrnau a migyrnau.


Wrth i'r diwrnod ddirwyn i ben, mae e'n cronni'r mae'n ychydig nerth sydd ganddo ar ôl i dynnu ei Hun i fyny eto er mwyn iddo allu gweiddi: “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?"


Os ydyn ni'n onest efo'n hunain, dŷn ni oll wedi cael munudau pan dŷn ni'n gofyn, "Ble wyt ti'n hyn i gyd? Pm wyt ti wedi troi dy gefn arna i?"


Sut ddylen ni ymateb pan dŷn ni'n cael ein hunain mewn sefyllfaoedd ble dŷn ni'n teimlo ar ben ein hunain, yn bryderus, neu bod Duw wedi troi cefn arnon ni?


Roedd y geiriau ddwedodd Iesu ar y groes wedi'u cymryd o Salm 22 - galarnad proffwydol wedi'i sgwennu gan y Brenin Dafydd. I raddau helaeth iawn mae'r Salm hon am Iesu, ond mae hi hefyd yn darparu tri cam ar ein cyfer pan dŷn ni'n teimlo ein bod ar ben ein hunain.


1. Bydd yn onest gyda Duw am y ffordd rwyt ti'n teimlo


Mae perthnasoedd yn dechrau gyda bod o ddifri. Felly os wyt ti'n teimlo fel dy fod Duw wedi troi cefn arnat ti, dweda hynny wrtho e. Gofynna i Dduw dy gwestiynau a bydd yn barod i glywed ei atebion.


2. Rho orfoledd i Dduw beth bynnag.


Dydy ein teimladau ddim yn newid y ffaith fod Duw'n haeddu cael ei foli. I ddweud y gwir, yn amlach na pheidio, drwy addoliad byddwn yn darganfod iachâd ar gyfer ytr hyn sy'n ein poeni. Pan fyddwn yn ffocysu ar pwy yw duw, mae ein persbectif, gydag amser, yn symud - hyd yn oed os nad yw ein sefyllfa'n newid.


3. Atgoffa Duw o'i addewidion.


Drwy Salm 22, mae Duw i raddau'n dweud wrth Dduw, "Dw i'n gwybod pwy wyt ti. A chan dy fod eirwir i'th air, anrhydedda fi fel y pobl o'm mlaen i." Mae atgoffa Duw o'i addewidion, nid yn unig yn arwydd o ffydd, ond mae e hefyd yn ein helpu i gofio am ffyddlondeb cymeriad Duw.


Yn y pen draw, personolwyd ffyddlondeb Duw pan groeshoeliwyd Iesu. Dioddefodd Iesu o'i wirfodd, ar ben ei hun ar y groes fel ein bod ni'n gallu profi cwmni Duw'n dragwyddol. Iesu yw cyflawniad proffwydol Salm 22. Ac, oherwydd iddo ddioddef cael ei wahanu oddi wrth Dduw, does dim rhaid i ni byth.


Cymer funud i fyfyrio ar aberth eithaf Iesu drosot ti.


Gweddïa: Iesu, diolch i ti am fy achub o gael fy ngwahanu'n dragwyddol oddi wrth Dduw. Oherwydd i ti, o'th wirfodd, ddioddef cael dy wahanu oddi wrth dy Dad, fydd dim rhaid i mi. Heddiw, helpa fi i fyfyrio ar faint dy aberth, ac i roi i ti'r orfoledd rwyt wirioneddol yn ei haeddu. dydy e ddim o bwys beth dw i'n deimlo, rwyt ti'n haeddu dy foli gen i. Felly, heddiw dw i'n dewis dy foli di, yn enw Iesu

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Living Hope: A Countdown to Easter

Pan fydd tywyllwch yn dy amgylchynu sut ddylet ti ymateb? Am y tri diwrnod nesaf trocha dy hun yn stori'r Pasg a darganfydda sut i ddal gafael mewn gobaith pan wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy adael, ar ben dy hun, neu...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd