Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Newid mewn Bywyd: PwrpasSampl

Living Changed: Purpose

DYDD 5 O 5

Llwybrau Syth


Mae byw allan ein pwrpas yn golygu ildio’n gyfan gwbl i Dduw. Pan fyddwn ni’n ildio i’w ewyllys, dydy e ddim yn golygu ein bos i eistedd nôl a gwneud dim. Mae’n golygu ein bod i chwilio am dano’n ddiddiwedd wrth i ni symud ymlaen. Mae’r Beibl yn addo y bydd e’n gwneud ein llwybrau’n rhai syth, ond iddo e ein harwain ar eu hyd, rhaid i ni dda ati i’w cymryd.



Flynyddoedd yn ôl, rhoddodd Duw weledigaeth i mi ddechrau gweinidogaeth fyddai’n helpu gwragedd o bob oed wreiddio eu hunaniaeth yn gadarn yng Nghrist. Ar y pryd doedd gen i ddim syniad sut i weithredu breuddwyd mor fawr. Wrth gwrs, ro’n i’n gwybod na fyddai’n digwydd dros nos, ond doeddwn i ddim yn gwybod, hyd yn oed, ble i ddechrau! Byddai angen arnom leoliad, tîm medrus, arian, cytundebau wedi’u harwyddo, jest i enwi rhai pethau. Yn lle cael fy llethu, penderfynais achub ar y cyfleoedd roddodd Duw ar fy llwybr a’i drystio gyda’r canlyniad. Ar ôl rhai blynyddoedd, fe wnaethon ni gynnal ein hencil cyntaf. Dw i’n gwybod na fyddai wedi digwydd heb fy ufudd-dod i gymryd y cam cyntaf ac ildio i’w ewyllys bob cam o’r ffordd.


Mae’n plesio Duw pan dŷn ni’n chwilio am ei gymorth i wneud penderfyniad. Hyd yn oed pan dw i wedi cymryd y tro anghywir, dw i wedi’i weld yn fy rhoi nôl ar y llwybr cywir. Mae yna gyfnodau pan mae’n hollol glir imi iddo agor ffordd, dim ond iddo gau’r drws. Dw i#’n credu ei fod yn rhoi trefn ar bethau am ei fod yn gwybod fod fy nghalon eisiau ei wasanaethu. Os byddwn yn ei gydnabod bob cyfle, ildio ein dyfodol, a thrio gwneud penderfyniadau a fydd yn ei anrhydeddu, bydd ei bwrpas ar gyfer ein bywydau yn dod yn amlwg.


Er falle nad wyt yn siŵr ble mae pen draw’r daith, gofynna i ti dy hun pa gam wyt ti’n meddwl mae Duw’n gofyn iti ei gymryd y funud hon. Os wyt ti’n dda gyda phlant, rho dro ar wasanaethu gyda gwaith plant yn dy eglwys. Os wyt ti’n dda am drefnu. Falle yr hoffet helpu cadw’r banc dillad mewn trefn. Os na fedri di ddirnad ble mae Duw’n dy arwain, dechreua drwy wahodd pobl i’th eglwys. Fel dilynwyr Crist, mae pob un ohonom yn cael ein galw i ddod â mwy o bobl gyda ni i mewn i dragwyddoldeb.


Mae Colosiaid, pennod 3, adnod 23 yn dweud, “ Gwnewch eich gorau glas bob amser, fel tasech chi'n gweithio i'r Arglwydd ei hun, a dim i feistri dynol” (beibl.net). Mewn geiriau eraill, jest dechreua ddefnyddio dy ddoniau er gwell ac yn ddiflino er budd ei Deyrnas. Mae cymryd cam ansicr er anrhydedd i Dduw yn well na gwneud dim byd. Paid gadael i’r ofn o gymryd y cam anghywir dy gadw rhag symud ymlaen. Mae e’n ddibynnol a bydd yn creu rhywbeth hynod o’th offrwm.


Dduw, diolch am fy nghynnwys yn dy gynllun. Dw i’n gwybod fod gen ti weledigaeth ar gyfer fy mywyd, a dw i’n trystio y byddi’n fy arwain tuag at y pwrpas sydd gen ti ar fy nghyfer. Helpa fi ddal ati i brosesu’r hyn dw i wedi’i ddechrau drwy’r cynllun hwn. Helpa fi i weld fy hun drwy dy lens o wirionedd. Dangosa imi’r hyn rwy’n angerddol drosto, beth rwy’n dda am ei wneud, yr hyn rwyf wedi’i drechu. I ble rwyt ti’n fy arwain, a sut mae’r cyfan oll yn fy nghymhwyso i wneud dy waith. Dalai ati i fy siapio fel fy mod yn barod i wasanaethu yn y rôl rwyt wedi’i drefnu ar fy nghyfer i. Y cwbl dw i eisiau ei wneud yw dy anrhydeddu yn fy holl fywyd. Arwain fi a gwna fy llwybr yn unionsyth. Yn yr enw mwyaf pwerus a gwerthfawr, Iesu, Amen.


Dŷn ni’n gweddïo fod Duw wedi defnyddio’r cynllun hwn i weinidogaethu i dy galon.
Cymer olwg ar gynlluniau Newid Bywyd eraill
Dysga fwy am Weinidogaeth Merched Newidiwyd


Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Living Changed: Purpose

Wyt ti erioed wedi meddwl beth wnaeth Duw dy greu di i wneud, neu gofyn iddo pam wyt ti wedi bod drwy rai profiadau penodol? Ces ti dy greu yn unigryw ar gyfer rôl bwrpasol y gelli di yn unig ei chyflawni. Hyd yn oed os ...

More

Hoffem ddiolch i Changed Women Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.changedokc.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd