Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Newid mewn Bywyd: PwrpasSampl

Living Changed: Purpose

DYDD 3 O 5

Pwrpas mewn Poen



Weithiau gall fod yn anodd gweld sut y gallai Duw o bosibl ddefnyddio poen ein gorffennol er daioni. Ac eto, drosodd a throsodd yn y Beibl, gwelwn enghreifftiau o Dduw yn cymryd y sefyllfaoedd tywyllaf, mwyaf anodd ym mywydau pobl ac yn eu defnyddio ar gyfer ei ogoniant.



Mae Genesis 37-50 yn dweud y stori am frodyr Joseff oedd mor genfigennus a llawn casineb tuag ato fel y bu iddyn nhw ei werthu i mewn i gaethwasiaeth. Fel pe na bai hynny'n ddigon drwg, roedd celwyddau gwraig ei feistr wedi arwain at ei garcharu. Fel llawer ohonom ni wynebodd e deimladau llethol o ‘gael ei fradychu, ei wrthod, a’i anwybyddu - ond roedd Duw ar waith. Ymhen amser, er gwaethaf ei sefyllfa anobeithiol, ar yr olwg gyntaf, daeth Joseff yn arolygydd i Pharo gyda’r pŵer i achub ei deulu a holl wlad yr Aifft o newyn a marwolaeth. O edrych yn ôl mae Joseff yn gallu cydnabod nad oedd Duw wedi’i adael unwaith ond yn dawel drefnu gwyrth.



Fel Joseff, dŷn ni gyd yn profi poen a thorcalon. Mae rhai ohonon ni, hyd yn oed, yn profi trasiedi anhraethol neu gamdriniaeth anfaddeuol. Fodd bynnag, mae storïau fel hyn yn rhoi gobaith i ni, y gallem, gyda Duw, ffeindio pwrpas yn ein poen.



Yn aml, mae ein poenau’n rhoi'r cyfle i ni ddylanwadu ar y byd mewn ffyrdd na all neb arall. Dw i wedi clywed mai dim ond y rhai hynny sydd wedi colli rhiant all wirioneddol ddeall sut deimlad sydd i’r math yna o golled. Mae’n wir. Mae colli fy nhad yn dal i frifo heddiw, ond dwi’n gweld ei fod yn rhoi'r gallu imi siarad o brofiad ag eraill a’u cysuro ar lefel na all fawr neb arall ei wneud. O ran fy mhrofiad i, gall ein poen ein harwain tuag at ein pwrpas.



Falle oherwydd dy orffennol rwyt â’r profiad unigryw ar gyfer rhoi gobaith i rywun am eu priodas, neu falle y gall y sialensiau rwyt yn eu hwynebu gyda’th laslanc helpu teuluoedd eraill i adnabod arwyddion o hunan anafu. Falle oherwydd dy frwydrau dy hun, gelli di helpu eraill drwy anffrwythlondeb, caethiwed i gyffuriau, neu ddiagnosis cancr. Beth bynnag yw dy stori, mae yna hyfrydwch a phŵer mewn dewis i fod yn ddigon bregus i rannu dy dystiolaeth ag eraill?



Os wyt ti, ar hyn o bryd, yn byw drwy dymor caled, falle na elli di feddwl am yr hyn sydd gan Dduw ar dy gyfer yn y dyfodol. Mae hynny’n iawn. Ar y funud yma, does dim angen iti wybod sut bydd Duw yn defnyddio dy boen. Jest dealla, y bydd e’n gwneud. Gad i hynny roi’r nerth iti ddal ati.



Dduw, diolch am addo na fyddi’n gadael i’r holl bethau drwg dw i wedi’u profi’n fy mywyd fod yn ddiwerth. Diolch am addo y bydd POPETH yn gweithio er gwell. Iesu, dw i’n rhoi iti’r holl ddarnau tywyll, hyll ac amherffaith o’m gorffennol ac yn trystio y byddi’n eu troi i mewn i rywbeth hyfryd. Tyrd â’r iachâd a dangos imi sut i ddefnyddio fy ngorffennol i’th bwrpas. Llenwa fi gyda gobaith a hyder ynot ti. Yn enw Iesu dw i’n gweddïo, Amen.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Living Changed: Purpose

Wyt ti erioed wedi meddwl beth wnaeth Duw dy greu di i wneud, neu gofyn iddo pam wyt ti wedi bod drwy rai profiadau penodol? Ces ti dy greu yn unigryw ar gyfer rôl bwrpasol y gelli di yn unig ei chyflawni. Hyd yn oed os ...

More

Hoffem ddiolch i Changed Women Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.changedokc.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd