Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Sut i ddechrau darllen y BeiblSampl

How to Start Reading the Bible

DYDD 2 O 4

Sut i ddechrau arferiad o ddarllen y Beibl bob dydd



Paid byth â methu ddwywaith. Os wyt ti'n methu un diwrnod, gwna ymdrech i ail gydio ynddi gynted â sydd bosib - James Clear



Gall darllen y Beibl deimlo'n rhywbeth llethol os nad wyt wedi dechrau eto. Neu efallai dy fod yn ei agor yn achlysurol, ond ar y cyfan, dydy e ddim yn rhan o'th fywyd dyddiol. Heddiw, gallwn newid hynny drwy gynnwys rhai camau syml.



Does dim rhaid i ddechrau arferiad dyddiol o ddarllen y Beibl fod â golwg benodol arno. aeth bynnag y dull, bydd Duw yn datgelu pethau i ni mewn ffordd bwerus pan fyddwn ni'n gwneud hynny. Ac fel mae'r dyfyniad yn dweud uchod: Paid byth â methu ddwywaith. Nid oherwydd y byd Duw'n flin efo ni - Fydd e ddim. Ond, po fwyaf o ddyddiau fyddwn ni'n methu, gymaint hawsaf fydd stopio'n gyfan gwbl. Isod mae ychydig o awgrymiadau i'th helpu di i ddechrau arferiad dyddiol gyda'r Beibl.

Darllena'r Testament Newydd.

Mae hwn yn fan cychwyn gwych oherwydd bod y Testament Newydd yn cofnodi bywyd a dysgeidiaeth Iesu. Gelli ychwanegu'r Hen destament ar ddyddiad diweddarach, ond i bobl sy'n newydd i'r Beibl, dyma dy fan dechrau.
dechreua yn Mathew a darllen, pennod y dydd. Gwna gofnod o unrhyw gwestiynau sydd gen ti a gofyn i ffrind neu weinidog sydd ymhellach ymlaen a r y daith o ddarllen y Beibl, nad wyt ti.



Dechreua gynllun Beibl.

Yn YouVersion dŷn ni'n cynnig miloedd o Gynlluniau Beibl - yn union fel hwn - i'th helpu ar dy daith. Mae yna lawer o bobl sy'n wybodus iawn am y Beibl, ei hanes, a'i gefndir, a bydd hynny'n dy helpu go iawn i'w ddeall. Gelli ddechrau drwy ddod o hyd i gynlluniau dyddiol fydd yn dy helpu i gerdded drwy y Beibl.



Gweddïa am arweiniad

Y cam cyntaf yw darllen y Beibl yn ddyddiol. Ac mae e'n un mawr! Wrth i ti barhau i ddarllen a dysgu mwy am y manylion bach a mawr, gweddïa ar i Dduw roi i ti fewnwelediadau gwerthfawr. Gofynna i Dduw i wneud i'w wirionedd ddod yn fyw i ti fel dy fod yn tyfu i ddeall ei Air.



Bydd dyddiau pan na fyddwn ni eisiau darllen y Beibl. Mae cymaint o bethau eraill yn ein tynnu ni i'w cyfeiriad. A bydd dyddiau hefyd pan fyddwn yn ei ddarllen ond yr ystyr ar goll. Dyma ble dŷn ni'n dewis i ddarllen y Beibl beth bynnag. Anaml y byddwn yn teimlo ein ffordd i mewn i weithredoedd, ond yn aml mae ein teimladau'n dilyn pan fyddwn yn gweithredu.



Wrth i ti gamu ymlaen i'r arfer dyddiol newydd hwn o ddarllen y Beibl, bydd Duw yn dechrau dangos pethau na allet ti fyth eu dychmygu. Gelli fod yn hyderus y bydd y buddsoddiad hwn yn meithrin ar gynnydd ysbrydol yn dy fywyd.




  • Wyt ti'n darllen dy Feibl yn ddyddiol? Pam neu pam ddim?

  • Ystyria ymrwymo i ddarllen dy Feibl am y diwrnod nesaf. Efallai yr hoffet ddod o hyd i rywun i rannu'r her hon gyda ti er atebolrwydd. (Gelli hyd yn oed ddechrau Cynllun y Beibl gyda Ffrindiau a'u gwahodd i'w wneud gyda ti!)

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

How to Start Reading the Bible

Gad i ni fod yn onest: dŷn ni'n gwybod ei bod hi'n syniad da i ddarllen y Beibl, ond yn eithaf anodd i wybod ble i ddechrau. Dros y pedwar diwrnod nesaf byddwn yn dysgu pam fod y Beibl yn bwysig, sut i ddechrau arferiad ...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd