Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Sut i ddechrau darllen y BeiblSampl

How to Start Reading the Bible

DYDD 1 O 4

Beth Yw'r Beibl a Pham Mae'n Bwysig



Mae Beibl sydd wedi'i ddarllen yn dda yn arwydd o enaid sydd wedi'i fwydo'n dda. - Dienw



Mae'r Beibl, sy'n cael ei gyfeirio ato'n gyffredinol fel Gair Duw neu'r Ysgrythur, yn ganllaw i ni fel dilynwyr Crist ac mae'n elfen allweddol i'n helpu i gerdded yn agosach gyda Iesu. Er nad yw'n ateb pob un o'n cwestiynau, mae'n dangos i ni pwy yw Duw, sut i fod mewn perthynas ag eraill, sut i fyw gyda phwrpas, a sut i gael bywyd tragwyddol.



Un o'r pethau hynod sy'n cael ei ddweud wrthon ni yw, y dylem ddarllen mwy ohono. Ond gallwn ddysgu rhai gwirioneddau pwerus am y Beibl, a bydd hynny'n ein hannog i'w wneud yn rhan o'n harferion beunyddiol.



Yn gyntaf, gadewch i ni drafod beth ywe.



Yn y Beibl mae yna...



  • 66 llyfr gwahanol,,,

  • ...wedi'i sgwennu dros gyfnod o 1500 o flynyssoedd...

  • ...mewn tair iaith...

  • ...gan 40 awdur gwahanol...

  • ...yn byw ar dri cyfandir gwahanol...

  • ...pob un wedi'i yasbrydoli gan Dduw...


Er fod y llyfrau hyn wedi'u sgwennu'n annibynnol i'w gilydd, mae nhw'n trafod un thema drwy'r Hen Destament a'r Newydd: prynedigaeth dynolryw drwy ein Gwaredwr. Iesu Grist.



Mae yna dros 300 o broffwydoliaethau'n yr Hen destament sy'n rhagfynegi bywyd a gwaith Iesu a chyflawnwyd pob un ohonynt yn ei fywyd. Gyda'r holl wahaniaethau hyn o ran sut a phryd yr ysgrifennwyd y Beibl, nid oes unrhyw ffordd y gallai'r mwyafrif o'r proffwydoliaethau hyn fod wedi'u rhagweld gan yr awduron ac ni allent fod wedi cynllwynio gyda'i gilydd.



Yn syml, mae'r ffeithiau hynny'n syfrdanol! Bydd astudio a dysgu am y Beibl yn ymdrech gydol oes, oherwydd dŷn ni'n bobl meidrol sy'n ceisio deall Duw anfeidrol . Fodd bynnag, gallwn dyfu yn ein dealltwriaeth a pharhau i ddysgu trwy gydol ein bywydau.



Efallai y byddwn yn meddwl tybed sut mae ein bywydau yn cael eu heffeithio go iawn pan dŷn ni ddim yn darllen y Beibl. Efallai na fyddwn yn teimlo gwahaniaeth mawr os ydym yn colli diwrnod. Mae fel cymryd meddyginiaeth ar gyfer cyflwr sydd gynnon ni — efallai nad ydym yn credu bod y feddyginiaeth yn gwneud llawer, ond os ydym yn rhoi’r gorau i’w gymryd, rydym yn sylwi ar wahaniaeth enfawr . Efallai na fyddwn bob amser yn teimlo bod y Beibl yn effeithio arnom, ond os ydym yn ei dynnu o'n teithiau cerdded beunyddiol gyda Iesu, byddwn yn sylwi pa mor newynog y daw ein hysbryd.



Wrth i ni fynd drwy'r Cynllun Beibl hwn byddwn yn darganfod sut i fagu arferiado astudio bob dydd, dysgu i gymhwyso Gair Duw'n ein bywydau, a thrystio Duw'n fwy cyson.



Myfyrio




  • Wyt ti'n credu yng nilysrwydd a phwysigrwydd y Beibl? Pam neu pam lai?

  • Os yw hwn yn faes yr hoffet ddysgu mwy amdano, mae yna lawer o adnoddau ar gael ar-lein gan bobl sydd wedi treulio eu bywydau yn casglu ffeithiau am y Beibl a'i ddilysrwydd.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

How to Start Reading the Bible

Gad i ni fod yn onest: dŷn ni'n gwybod ei bod hi'n syniad da i ddarllen y Beibl, ond yn eithaf anodd i wybod ble i ddechrau. Dros y pedwar diwrnod nesaf byddwn yn dysgu pam fod y Beibl yn bwysig, sut i ddechrau arferiad ...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd