Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gwneud amser i OrffwysSampl

Making Time To Rest

DYDD 4 O 5

Ymguddio rhag Ymyrraeth.


Os na fyddi'n treulio amser i ffwrdd o'r byd o'th gwmpas, mae'r byd o'th gwmpas yn mynd i'th dynnu i lawr. - Erwin McManus


Un o'r diffiniadau am orffwys yw i fod yn rhydd o bryder neu ymyrraeth.Adeg yma o'n bywydau mae'n hawdd iawn i ni ffeindio pethau fyddai'n ymyrryd â'n gorffwys, heb sôn am achosi pryder. Fe allen nhw fod yn bleserus i ddechrau a theimlo fel eu bod yn ein hadfywio, ond y pen draw, dŷn ni'n mynd i ddioddef o ddiffyg gorffwys go iawn.


Mae nifer fawr o bobl yn tystio i'r gwahanol ffyrdd o ddatgysylltu eu hunain oddi wrth y byd sy'n or-gysylltiedig. Mae yna lyfrau, erthyglau, podlediadau, a negeseuon sy'n rhoi i ni dri cam rhag ein bod wedi ein gorlethu gan bethau sy'n dwyn ein sylw. Ond, dydy sylw pawb ddim yn cael ei dynnu gan yr un pethau. Mae beth sy'n tynnu sylw un person, o bosib, ddim yn tynnu sylw un arall.


Er mwyn gallu torri'n rhydd oddi wrth bethau sy'n tynnu ein sylw mae'n rhaid i ni ystyried un neu ddau o bethau. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni adnabod beth sy'n tynnu ein sylw. Y pethau hynny sy'n ein llusgo i ffwrdd o'r hyn sy'n bwysig am eu bod un ai'n teimlo'n angenrheidiol neu'n hwyl am eu bod yn ein boddhau. Ac yn ail, mae'n rhaid i ni fod yn barod i osod o'r neilltu ein hagenda ein hunain fel na fydd y bobl bwysig hynny'n ein bywydau ymddangos fel rhwystr


Rhaid gosod rhai terfynau ar y peth hwnnw sy'n dwyn heddwch a gorffwys oddi arnom. May na thebyg, ar ôl darllen y frawddeg yna, dŷn ni'n gwybod beth yw e. Yn lle i gadael i bethau sy'n tynnu ein sylw ein cadw rhag cael gorffwys a'r pobl bwysicaf yn ein bywydau falle y dylem...



  • ...beidio agor cyfrifiadur y gwaith pan mae ein plant yn effro.

  • ...ddewis i ffocysu ar y da, yn lle bod pryderon y byd yn tynnu ein sylw.

  • ...osod caniad ffôn penodol ar gyfer y teulu, ar gweddill i fynd syth i'r peiriant ateb.

  • ...ddewis i beidio edrych ar y teledu tan y penwythnos.

  • ...dal nôl ar ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel y gallwn fyw'n y presennol.

  • ...gosod amserlen benodol ar rai gwefannau, apiau neu gemau fideo.


Os dŷn ni'n cael ein hunain mewn sefyllfa ddiwedd o bryder a theimlo dan ymyrraeth, rhaid i ni leihau n eu hyd yn oed ddileu y math hynny o bethau sy'n gwneud i ni deimlo felly. Fydd hi ddim yn hawdd. Mae unrhyw beth sy'n werth ei gael yn cymryd amser ac aberth. Gad i ni beidio gadael i ddiwrnod arall mynd heibio rhag i bethau'r byd sy'n tynnu ein sylw ein cadw oddi wrth orffwys gorau Duw ar ein cyfer.


Myfyrio



  • Beth yw'r ymyrraeth fwyaf sy'n dy rwystro rhag gorffwys go iawn?

  • Pa gam au sydd raid i ti eu cymryd i leihau'r ymyraethau hyn yn dy fywyd?

  • Gwna nodyn o unrhyw ddatganiad sy'n dod gan Dduw drwy ddarlleniad neu defosiwn heddiw.
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Making Time To Rest

Yn aml, mae gorweithio eithafol a phrysurdeb cyson yn cael ei gymeradwyo yn ein byd, ac mae'n gallu bod yn sialens i ymlacio. Er mwyn gweithredu ar ein rolau a'n cynlluniau yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddysgu gorffwys...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd