Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gwneud amser i OrffwysSampl

Making Time To Rest

DYDD 3 O 5

Adnewydda dy feddwl drwy Gofnodi


Mae beth bynnag rwyt yn feddwl amdano un cynyddu. Paid ffocysu ar beth rwyt yn mynd drwyddo. Ffocysa ar beth rwyt yn mynd i'w wneud! - Dr. Caroline Leaf


Ar Ddiwrnod 2 dŷn ni'n dysgu am ffordd i orffwys drwy fyfyrio ar Air Duw fel bod ein gweithredoedd yn alinio gyda ei wirioneddau. Mae yna nifer o ffyrdd i adael i'r Ysgrythur dreiddio i'n heneidiau. Bydd ei wirionedd yn lythrennol lifo dros ein meddyliau a byddwn yn dechrau gweld pethau'n wahanol. Wrth i ni fyfyrio ar Air Duw, byth ein meddyliau'n cael eu hadnewyddu a bydden yn darganfod gorffwys nad oedden ni'n meddwl ei fod yn bosib.


Fel ein bod yn gallu cael y mwyaf allan o'n hamser gyda'n amser yng Ngair Duw gallwn integreiddio cofnodi fel rhan o'n harfer dyddiol. Does dim rhaid i gofnodi fod yn helaeth neu'n fanwl iawn,. os nad yw hen yn rywbeth dŷn ni wedi arfer ei wneud. Gall fod mor hawdd â sgwennu ychydig linellau o fewnwelediad gawson ni pan yn darllen y Beibl. Mae yna gymaint o ffyrdd i gofnodi. Gallwn gofnodi ein meddyliau neu weddïau, a mae rhai pobl hyd yn oed yn creu darluniau wrth gofnodi. Does dim un ffordd gywir. I'th helpu i ddechrau dyma amlinelliad syml i'w ddilyn.


  • Dewis un adnod (neu fwy) i'w darllen.
  • Darllena eto.
  • Sgwenna hi i lawr.
  • Gofynna i Dduw am fewnwelediad a chofnodi hwnnw.

Falle dy fod yn dewis cofnodi am Rhufeiniaid, pennod 8, adnod 28 ble mae'n dweud,"Dŷn ni'n gwybod fod Duw'n trefnu popeth er lles y rhai sy'n ei garu – sef y rhai mae wedi'u galw i gyflawni ei fwriadau."Ar ôl ei darllen dwy neu dair gwaith, dŷn ni'n ei chofnodi. Falle byddwn hyd yn oed yn dewis ei chofnodi mewn fersiynau gwahanol o'r Beibl. Dŷn ni'n dod â'n hamser o gofnodi i ben drwy ofyn i Dduw am fewnwelediad at yr hyn dŷn ni newydd ei ddarllen.


Wrth i ni bori dros yr Ysgrythur yn defnyddio'r amlinelliad uchod, gallwn ei wneud yn rhan o'n harferiad dyddiol. Mae cofnodi, hefyd, yn darparu llinell amser y galwn edrych nôl arni i weld y cynnydd ysbrydol dŷn ni wedi'i wneud a ffyrdd ffres mae Duw wedi siarad â ni'n y gorffennol.


Byddwn yn gweld pethau’n glir ac yn cael persbectif newydd ynglŷn â sut mae Gair Duw yn berthnasol i’n bywydau ac yn ein hadfer o’r tu mewn. A chyda ein meddyliau’n cael eu hadnewyddu, dŷn ni'n derbyn gorffwys na ellir fyth ei gael gan unrhyw bleser daearol.


Myfyrio


  • A wyt ti erioed wedi gwneud cofnodi'n rhan o'th amser gyda Duw bob dydd?
  • Dewisa un adnod a chofnodi gan ddefnyddio'r amlinelliad uchod.
  • Gwna nodyn o unrhyw ddatganiad sy'n dod gan Dduw drwy ddarlleniad neu defosiwn heddiw.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Making Time To Rest

Yn aml, mae gorweithio eithafol a phrysurdeb cyson yn cael ei gymeradwyo yn ein byd, ac mae'n gallu bod yn sialens i ymlacio. Er mwyn gweithredu ar ein rolau a'n cynlluniau yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddysgu gorffwys...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd