Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

DYDD 3 O 10

Mae Da neu Ddrwg Yn Dod O’r Galon

Beth sy’n achosi inni wneud da neu ddrwg? Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai'r penderfyniadau a wnawn ni sy'n gyfrifol. Os wnei di osod dy feddwl ar wneud daioni dyna wnei di. Os byddi’n dewis gwneud drwg, byddi’n gwneud hynny yn lle.


Ond mae Iesu yn ein dysgu bod gwir ffynhonnell ein gweithredoedd yn gorwedd yn llawer dyfnach. Mae'r cyfan yn dod i lawr i'r galon.


“Maen nhw fel dyn sy'n mynd ati i adeiladu tŷ ac yn tyllu'n ddwfn i wneud yn siŵr fod y sylfeini ar graig solet. Pan ddaw llifogydd, a llif y dŵr yn taro yn erbyn y tŷ hwnnw, bydd yn sefyll am ei fod wedi'i adeiladu'n dda.” (Luc. 6:45).

Mae beth bynnag sydd yn dy galon yn dod i’r golwg yn dy fywyd.


Bydd yr hyn rwyt ti’n ei drysori, ei werthfawrogi, ei ogoneddu a'i fwynhau yn arwain at yr hyn fyddi’n gwneud. Os wyt yn trysori pethau da yn dy galon, byddi’n gwneud daioni. Os wyt yn trysori pethau drwg yn dy galon, yna byddi'n gwneud drwg.


Felly sut mae newid yr hyn y mae ein calonnau yn ei drysori? Mae’r ateb, yng ngeiriau Iesu, yn wahanol i’r hyn y basen ni’n ei ddisgwyl. Falle y byddwn yn disgwyl rhestr o ddisgyblaethau, arferion, neu fyfyrdodau a fyddai'n newid yr hyn y mae ein calonnau'n ei werthfawrogi.


Fodd bynnag, nid ar yr hyn yr wyt yn ei wneud y seilir cyflwr dy galon, ond pwy wyt ti. Dysgodd Iesu na all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg ac na all coeden ddrwg ddwyn ffrwyth da. Dim ond coed da all ddwyn ffrwyth da.


Felly mae'n rhaid inni ofyn, sut mae dod yn goeden dda?


Dyna waith yr Efengyl. Mae Iesu'n ein gwneud ni'n goeden dda er gwaethaf ein holl ffrwythau drwg. Mae'n ein hachub ac yn ein trawsnewid cyn inni wneud unrhyw beth i haeddu’r trawsnewid hwnnw.


Y cyfan sydd angen i ni ei wneud yw gweld ein hunain fel y goeden dda y mae Iesu wedi'n gwneud ni i fod, a bydd ein calonnau'n ei drysori uwchlaw popeth arall.


Wyt ti am newid dy weithredoedd? Trysora Iesu am dy wneud yn goeden dda hyd yn oed pan mai ti oedd y goeden waethaf oedd yno. Bydd e wedyn yn gweithio yn dy galon i ddwyn ffrwyth da.


Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar...

More

Hoffem ddiolch i Spoken Gospel am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i https://bit.ly/2ZjswRT

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd