Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn PechodSampl

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

DYDD 5 O 10

Mae Cred yn Newid Calonnau


Beth sydd wrth wraidd ein pechodau? Trwy gydol yr astudiaeth hon, dŷn ni wedi gweld bod y galon yn chwarae rhan ganolog yn ein harwain i bechod neu sancteiddrwydd. Ond beth sy'n effeithio ar y galon?



Dangosodd Iesu inni yn y Bregeth ar y Mynydd fod anghrediniaeth ar waelod ein holl bechodau.



Gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr beidio â bod yn bryderus ynglŷn â beth fydden nhw’n ei fwyta, ei yfed neu ei wisgo. Sut mae hynny'n bosibl? Hyd heddiw mae'n rhaid i bobl lafurio a chrafu i oroesi, gan fyw o gyflog i gyflog. Sut byddaf yn bwydo fy nheulu, talu fy morgais, trwsio'r car? Ateb Iesu yw bod â ffydd yn narpariaeth Duw (Math. 6:25-30). Mae'r hyn dŷn ni'n ei gredu yn newid ein calonnau.



Mae Iesu yn dysgu gwirionedd pwysig inni am sut mae ein calonnau'n gweithio. Mewn ffordd mae’n dweud, “Gan fod Duw yn gwneud y pethau bach, mae’n siŵr y bydd yn gwneud y pethau mawr hefyd.” Mae Duw yn bwydo adar ac yn bwydo’r glaswellt. Dyna dystiolaeth y bydd yn dy fwydo ac yn dilladu dy blant. Creda fod Duw yn ddarparwr a bydd pryder yn cael ei dynnu o'th galon. Mae'r hyn rwyt ti'n ei gredu yn newid dy galon.



Fodd bynnag, mae anghrediniaeth yn dweud y gwrthwyneb i'n calonnau. Fel gwnaeth Iesu ddweud, mae’r pechod o bryder yn datgelu’r anghrediniaeth sylfaenol yn narpariaeth Duw. Dŷn ni’n poeni oherwydd dŷn ni ddim yn credu y bydd Duw yn darparu. Mae anghrediniaeth o bob math yn llenwi ein calonnau yn rheolaidd ac yn cynhyrchu ei bechod cyfatebol ac anochel.



Nid yw pŵer Duw yn gallu darparu. Nid yw cariad Duw yn ddigon i fodloni. Nid yw cyfraith Duw yn cyd-fynd â fy llawenydd. Nid yw gwaed Iesu yn ddigonol ar gyfer fy mhechod. Nid yw gweithrediad yr Ysbryd Glân yn ddigonol ar gyfer fy sancteiddiad. Ni all yr Efengyl wella fy mhriodas, fy nhynnu o'm caethiwed, na thawelu'r chwerwder yn fy nghalon. Dŷn ni’n amau fod Duw yn ddigon.



Os na allwn ymddiried yn Nuw, pwy allwn ni ymddiried ynddo? Trwy ein gweithredoedd, mae pob un ohonom wedi ateb y cwestiwn hwn yn ysgubol, “Fi fy hun!” Byddaf yn bodloni fy anghenion. Byddaf yn cyflawni fy nymuniadau. Pan geisiwn gyflawni ein dymuniadau trwy ein dyfeisiau ein hunain, yr unig ateb fydd yn llwyddo yw pechod. Pan lenwir ein calonnau ag anghrediniaeth, bydd popeth y byddwn yn dal gafael ynddo yn cael ei lunio yn eilunod o'n gwneuthuriad er ein boddlonrwydd ein hunain. O, ni o ychydig ffydd!



Felly sut wyt ti’n gallu brwydro yn erbyn pechod? Newidia dy galon. Sut wyt ti’n gallu newid dy galon? Newidia’r hyn rwyt ti’n credu.



Creda fod Iesu wedi darparu popeth sydd ei angen arnat ti yn yr Efengyl a bydd dy galon yn dechrau rhedeg oddi wrth bechod a thuag at Dduw.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Rewire Your Heart: 10 Days To Fight Sin

Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar...

More

Hoffem ddiolch i Spoken Gospel am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i https://bit.ly/2ZjswRT

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd