Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dyddSampl

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

DYDD 7 O 7

“Dyna ddigon, dw i eisiau marw.”




o’r gloch
Wnaeth y neges testun yma ymddangos ar ffôn fy ffrind, Ryan o rif diarth, ar nos Fawrth am 8 o’r gloch. Roedd e newydd roi’r plant yn eu gwlâu ar ôl diwrnod hir.



Atebodd y testun gyda, “Sori, ond pwy sydd yna?”

.

Ei henw oedd Sarah. Sylweddolodd ei bod wedi anfon neges i’r rhif anghywir ac ymddiheurodd.



“Aros funud,” atebodd. “fedra i helpu.”



Dechreuon nhw anfon negeseuon nôl a ‘mlaen am ryw hanner awr. Dwedodd ei stori drasig wrtho. Y gic olaf oedd ei chariad treisiol presennol yn gorffen eu perthynas. Ceisiodd ei darbwyllo am gariad Iesu ac mor werthfawr oedd hi i Dduw, er gwaetha’r ffordd roedd hi’n teimlo. Dwedodd wrthi am beidio edrych ar ei bywyd ar sail barn hogyn 22ain mlwydd oed ohoni.



“Mae’n rhy hwyr” atebodd, “Dw i newydd gymryd potel gyfan o dabledi.”



Plediodd Ryan arni i ddweud ble roedd hi. Dwedodd y byddai ei wraig yn mynd ati a’i chludo i’r ysbyty. Dwedodd wrtho a chafodd ei rhuthro i’r ysbyty, ble gafodd ei thrin gan ddoctoriaid, ac arbed ei bywyd.



Dros y misoedd canlynol agorodd lygaid Sarah, o dipyn i beth, i weld pa mor werthfawr oedd yng Nghrist. Aeth hyd yn oed i Brifysgol Cristnogol i ymateb i gynllun Duw ar ei chyfer. Roedd Duw wedi’i hachub. Roedd wedi cymryd bywyd oedd yn cael ei ystyried yn ddiwerth gan y byd - a hyd yn oed ei hun - a’i droi i ben ei waered. Roedd hi’n werth marw drosti.



Tra bod ffrind yn cael MBA mewn entrepreneuriaeth, ailadroddodd athro Economeg drosodd a throsodd y syniad sylfaenol wrth ei fyfyrwyr: Mae gwerth rhywbeth yn cael ei bennu gan yr hyn y bydd rhywun yn ei dalu amdano.



Y pris am ein prynedigaeth yw gwaed Iesu Grist, Mab Duw. All bod yna gost mwy? Allai unrhyw un dy wneud yn werth mwy?



Dŷn ni i gyd yn ymladd brwydr ddyddiol i seilio ein gwerth ar y pris a dalodd Duw amdanom. Mae llinyn mesur pawb yn wahanol ar gyfer mesur ein gwerth. Dŷn ni’n defnyddio llinyn mesur cyflawniadau, teulu, sut olwg sydd arnom ni, cyfoeth, hil, addysg, gallu i arwain, rhifau dylanwadol, neu “lenwi’r bylchau.”



Mae’r ddynoliaeth un ai ar bigau’r drain i brofi eu gwerth neu’n byw mewn iselder am eu bod yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw werth.



Hwn yw un o’r ffyrdd mwyaf pwerus o bregethu’r Efengyl i dy enaid. Rwyt ti’n atgoffa dy enaid o’i werth yn yr Iesu, drwy atgoffa dy hun o’r gost uchel dalwyd i’th brynu.


Ysgrythur

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gy...

More

Hoffem ddiolch i: Think Eternity am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thinke.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd