Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dewiswyd: Atgoffa dy hun o'r Efengyl bob dyddSampl

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

DYDD 1 O 7

Beth fydden digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl?



Os wyt ti fel fi, mae yn demtasiwn i gymryd yr Efengyl yn ganiataol a stopio’i hymarfer am ei fod mor gyfarwydd. Dŷn n ni’n ei storio rywle yn y gorffennol ac yn ceisio symud ymlaen oddi wrthi yn ein hisymwybod. Ond dŷn ni angen clywed yr Efengyl heddiw, gymaint, os nad mwy na’r diwrnod wnaethon ni ei chlywed am y tro cyntaf.



Os wnawn ni atgoffa ein hunain o’r Efengyl bob bore, wnawn ni ddeffro a byw mewn llawenydd mawr fod y frwydr fwyaf dŷn ni’n mynd i’w wynebu heddiw, eisoes wedi’i hennill.



Pa mor wahanol fyddai dy fywyd pe byddet ti’n ei phregethu’n dy galon dy hun yn amlach?



Mae yna ddwsinau o ffyrdd mae’r Efengyl yn effeithio’n gadarnhaol ac yn siapio ein bywydau dyddiol. Dŷn ni angen cael ein hatgoffa’n ddyddiol o’r buddiannau hyn, a dŷn ni angen pŵer Duw i’w afael ynddyn nhw fwy.



Mae llawer gormod o gredinwyr yn credu bod y newyddion da yn hen newyddion. Dŷn ni heb glywed yr Efengyl ormod, dŷn ni heb ei chlywed ddigon. Fel rhinweddau i ddiemwnt hyfryd, mae i’r Efengyl hyfrydwch diddiwedd na ellir fyth flino arni. Po fwyaf dŷn ni’n edrych ar yr Efengyl, y mwyaf y byddwn yn fodlon gyda'n ffydd.



Mae angen i ni gael ein hatgoffa’n rheolaidd am bopeth y mae Duw wedi’i wneud i ni yn yr Efengyl oherwydd bod yr Efengyl yn bwydo a chymell ein hawydd i ufuddhau i Dduw, a’i wasanaethu. Pan welwn gymaint y mae e wedi’i wneud - faint mae ee wedi’i roi i ni’n ei Fab - allwn ni ddim helpu cael ein newid a'n cymell i roi ein bywydau cyfan iddo. A thra ein bod yn bechaduriaid gwan a bregus yn stryglo i ddilyn Gwaredwr perffaith, mae’r Efengyl yn ein hatgoffa gymaint y mae Duw’n ein caru a gweithio ynom i’n helpu i’w ddilyn e.



Nid oes mwy o angen yn dy fywyd Cristnogol nag atgoffa dy galon dy hun yn rheolaidd o wirionedd yr Efengyl.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Chosen: Remind Yourself Of The Gospel Everyday

Beth fydde’n digwydd pe bae ti’n deffro pob bore ac atgoffa dy hun o’r Efengyl? Mae’r defosiwn 7 niwrnod hwn yn ceisio dy helpu i wneud hynny’n union! Mae’r Efengyl, nid yn unig yn ein helpu, ond mae’n ein cynnal drwy gy...

More

Hoffem ddiolch i: Think Eternity am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thinke.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd