Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Craig ac Amy Groeschel - From This Day ForwardSampl

Craig & Amy Groeschel’s From This Day Forward

DYDD 3 O 7

“Ymladd Teg”





Mae pob cwpl yn ffraeo Ond mae SUT rydych chi'n ymladd yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng anghytundeb bach a difrod mawr. Mae cyplau iach yn ffraeo i ddatrys y broblem nid i ennill y ddadl. Dydy gwrthdaro ddim yn lladd perthynas ar ei ben ei hun. Dyma bedwar arwydd i dy rhybuddio nad wyt yn trin gwrthdaro mewn modd adeiladol:





1. Beirniadaeth


Wyt ti'n defnyddio anghytundeb neu wrthdaro fel cyfle i feirniadu dy ŵr neu dy wraig? Neu wyt ti'n euog o'i f/beirniadu o flaen pobl eraill? Mae beirniadaeth yn arwydd eich bod yn ymladd yn erbyn eich gilydd yn llae o blaid y berthynas.





2. Dirmyg


Mae dirmyg yn un o'r pethau sy'n dangos gliriaf fod priodas yn crwydro oddi ar y trywydd iawn. Hyd yn oed os nad yw'n cael ei fynegi mewn geiriau, mae syllu'n gas, rolio'r llygaid , neu sylw meddyliol negyddol yn dal yn arwydd clir fod rhywbeth o'i le.





3. Bod yn amddiffynnol


Yr eiliad yma — pan nad ydych chi'n ffraeo — rhaid cyfaddef nad ydy bod yn amddiffynnol yn rhywbeth mae rhywun yn ei weld ynddo'i hun pan mae wedi cynhyrfu. Rhaid dewis gwrando pan mae rhywun yn tynnu dy sylw at y peth.





4. Codi muriau


Os nad ydy dy briod yn fodlon ceisio Duw hefo ti, paid gadael i hynny dy stopio di. Nid dy briod yw dy elwyn. Dim ond un gelyn sydd gennym. Ac mae e'n leidr a chelwyddgi sydd byth yn ymladd yn deg. Peidiwch ymladd eich gilydd. Rydych ar yr un ochr, felly ymladdwch frwydrau ysbrydol fel balchder a chalon galed sy'n difrodi eich perthynas.





Gad i ni weddïo: Arglwydd Iesu, helpa ni i rwystro gwrthdaro rhag gwneud niwed i'n priodas. Helpa ni bob dydd i roi ein balchder o'r neilltu a delio gyda materion fel beirniadaeth, dirmyg, bod yn amddiffynnol, neu godi muriau. Helpa ni i ymroi i ymladd mewn ffordd sy'n arwain i adferiad a datrysiad. Yn enw Iesu, Amen.
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Craig & Amy Groeschel’s From This Day Forward

Gall dy briodas fod yn wych. Bydd dewisiadau heddiw yn pennu sut briodas gei di yfory. Mae'r gweinidog a'r awdur enwog Craig Groeschel a'i wraig, Amy, yn dangos sut mae pum ymrwymiad yn gallu helpu priodas gadarn: Ceisia...

More

Hoffem ddiolch i Zondervan, Harper Collins a Life Church .tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.zondervan.com/from-this-day-forward

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd