Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Craig ac Amy Groeschel - From This Day ForwardSampl

Craig & Amy Groeschel’s From This Day Forward

DYDD 1 O 7

“From This Day Forward”





Prun ai wyt ti'n briod heddiw ai peidio, wyt ti wedi breuddwydio erioed sut allai priodas fod? Sut berson fyddai dy ŵr neu dy wraig? Sut berthynas fyddai rhyngoch chi'ch dau? Hyd yn oed fyddech chi'n cael plant a ble fyddech chi'n byw? Nawr, meddylia am dy fywyd fel y mae heddiw. Beth ddylen ni ei wneud pan nad ydy'r realiti yn adlewyrchu'r freuddwyd?





Mae addunedau priodas yn aml yn cynnwys cymalau fel "er gwell, er gwaeth, er cyfoethocach, er tlotach, yn glâf ас yn iach." Mae'r pethau yna i gyd mewn perthynas. Waeth pa amgylchiadau, dewisiadau, diffygion, na dim arall ddaeth â ni i'r sefyllfa rydyn ni ynddi, allwn ni ddim ei wneud yn well drwy edrych i'r gorffennol. Allwn ni ond ymrwymo i ddyfodol gwell, gan ddechrau heddiw — "o'r dydd hwn a hyd byth."





Petai cael y briodas ddelfrydol yn hawdd, byddai gen ti heddiw, iawn? Os nad oes gen ti'r nerth, rhaid i ti ddysgu pwyso ar nerth Crist, sydd bob amser yn ddigonol. A hyd yn oed os wyt wedi cyrraedd y fan lle rwyt yn teimlo fod dim cariad ar ôl — gelli bwysio ar ei gariad Ef, sydd byth yn darfod.Gad i ni weddio: Arglwydd, diolch fod pob dydd newydd rwyt yn ei roi i ni yn rhodd, ac yn gyfle i ddechrau o'r newydd. Helpa ni i faddau a gollwng gafael ar y gorffennol. Helpa ni i weld dy nerth di ar waith yn ein gwendidau ni heddiw, a'r un fath yfory a phob diwrnod sy'n dilyn. Yn enw Iesu, Amen.“
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Craig & Amy Groeschel’s From This Day Forward

Gall dy briodas fod yn wych. Bydd dewisiadau heddiw yn pennu sut briodas gei di yfory. Mae'r gweinidog a'r awdur enwog Craig Groeschel a'i wraig, Amy, yn dangos sut mae pum ymrwymiad yn gallu helpu priodas gadarn: Ceisia...

More

Hoffem ddiolch i Zondervan, Harper Collins a Life Church .tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.zondervan.com/from-this-day-forward

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd