Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna LightSampl

Break Free From Comparison a 7 Day Devotional by Anna Light

DYDD 5 O 7

Pan dŷn ni'n cymharu ac yn teimlo'n ddiffygiol rhaid i ni ofyn: a yw'r pethau yr hoffwn ei gael yn rhywbeth y gallwn ei gael pe bawn i'n gwneud yr ymdrech? Falle na ddylen ni gael gwared ar gymhariaeth a chenfigen. Falle y dylen ei gyflwyno mewn gostyngeiddrwydd i Dduw a gofyn am ei arweiniad.


Falle na fyddi di'n gallu newid siâp dy gorff ond fe allet ti golli'r pwysau sy'n dy wneud yn drist? Allet ti beintio cypyrddau dy gegin i roi golwg ffres i dy gartref? Allet ti ail danio hen berthynas? Mynd at gynghorydd priodas? Gwella dy hun tra rwyt ti'n sengl? Bod yn fwy cynnil â'th bres ar gyfer gwario ar bethau eraill?


Allai Duw fod yn defnyddio cymhariaeth a chenfigen i'th arwain i gyfeiriad mae e eisiau i ti fynd?


Digwyddodd yr union beth hyn i mi.


Tyfodd merch ro'n i'n adnabod i fyny ac roedd hi'n ymddangos fod popeth ganddi hi. Roedd hi'n hardd, llawn bywyd, a phoblogaidd gyda phawb. Cefais fy hun yn cymharu a meddwl, pe bawn i fel hi yna, faswn i ddim yn casáu fy hun gymaint.


Drwy fy obsesiwn gyda bywyd y ferch gwelais un peth oedd yn sefyll allan fel rhywbeth cyson:


Iesu.


Roedd hi'n amlwg fod ffynhonnell ei nerth, gobaith a hyder, yn dod o rywbeth llawer mwy na hi ei hun a'r newyddion da oedd y gallwn innau ei gael hefyd, os baswn i'n gwneud yr ymdrech. Dyna wnes i.


Rai blynyddoedd yn ddiweddarach cefais alwad gan ferch yn cyfaddef ei eiddigedd imi. Dwedodd wrtho i, "Dw i'n cael fy hun yn meddwl, os allaf i fod fel Anna, byddaf i'n hoffi fy hun."


Ro'n i'n gallu dweud wrthi'r un peth ddatgelodd Duw i fi: "Ti ddim eisiau bod ynof i. Yr unig beth wyt ti eisiau yw'r rhyddid ti'n ei weld, a'r newyddion da ydy, mi fedri di o wneud yr ymdrech."


Y gwir amdani yw, pan dŷn ni'n gwneud cymariaethau ar sail beth dŷn ni'n ei weld ar y tu allan mae e'n ein cadw rhag adnabod y galon neu stori'r person hwnnw.


Cyn imi ddysgu hyn, ro'n i'n ddig, yn gyfrinachol, am waith Duw ym mywydau pobl eraill, yn enwedig pan oedd y gwaith hwnnw'n edrych fel llwyddiant. Do'n i ddim yn dweud y gwir, ro'n i'n dweud dim. I fi, mae hynny'n waeth. Mae dathlu gwaith Duw ym mywyd person arall ddim yn lleihau gwaith Duw yn dy fywyd dy hun, a dweud y gwir, gallai PEIDIO dathlu gydag eraill effeithio ar barodrwydd Duw i weithio trwot ti. Os wyt yn cael dy hun yn digio oherwydd y llwyddiant ym mywydau eraill, torra drwy'r cadarnle a gofynna i'th hun beth rwyt ti angen ei wneud i fynd ati.


Oes rywbeth yn dy fywyd nad wyt ti'n hapus amdano ac mae'r pŵer gen ti i'w newid?


Beth sy'n dy gadw rhag gwneud y newid?


O Arglwydd, dw i eisiau cyflwyno fy nghymariaethau ac eiddigedd i ti a gofyn am gyfeiriad i fy mywyd. Wyt ti'n fy arwain i gyfeiriad dw i fod i fynd? Agor fy llygaid i'r hyn rwyt yn ei ddweud ar hyn o bryd wrth imi gyflwyno'r pethau hyn i ti. Helpa fi i fod yn anogaeth gan wybod dy fod yn fy ngharu gymaint ag unrhyw un arall.


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Break Free From Comparison a 7 Day Devotional by Anna Light

Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnweledi...

More

Hoffem ddiolch i Anna Light (LiveLaughLight) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.livelaughlight.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd