Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna LightSampl

Break Free From Comparison a 7 Day Devotional by Anna Light

DYDD 3 O 7

Dŷn ni'n aml yn cymharu ein hunain i eraill ac yn dod i'r casgliad ein bod yn well na nhw, ar y blaen iddyn nhw, harddach, teneuach, yn ennill mwy o bres, gyda mwy o ddilynwyr, a chyda mwy o ddylanwad. Yna dŷn ni'n teimlo ryw ymdeimlad o ragoriaeth.


Y broblem gyda hyn yw fod rhagoriaeth wedi'i wreiddio mewn balchder a dŷn ni'n gwybod o'r Beibl beth sy'n dod o falchder. Codwm.


Y broblem gyda chymharu ein hunain i ymdeimlad o ragoriaeth yw fod wastad rywun ar y blaen i ni, rywun arall dŷn ni'n ei ystyried yn harddach, iachach, gyda thŷ mwy, mwy o bres, mwy o ddilynwyr, a mwy o ddylanwad na ni. Dyna pam mae ail ganlyniad cymhariaeth yr un mor ddinistriol i'n calonnau.


Pan dŷn ni'n cymharu ein hunain i eraill a ddim yn cyrraedd y nod dŷn ni'n teimlo ymdeimlad o israddoldeb. Mae israddoldeb wedi'i wreiddio mewn ansicrwydd. Mae tu hwnt i ostyngeiddrwydd hyd at negyddiaeth yn y meddwl ac agwedd. Gall gael agwedd wael at ein hunain arwain at iselder, pryder ac ofn. Bydd yr ymddygiad hwn yr un mor ein trapio oherwydd ei fod yn ein cloi mewn carchar o gelwydd.


Cofia, gostyngeiddrwydd go iawn ydy'r hyn dŷn ni ar ei ôl am fod gostyngeiddrwydd go iawn yn plesio Duw a dod â gogoniant iddo. Dychmyga'r peth fel clorian gytbwys. Mae gostyngeiddrwydd go iawn yn ein cadw'n gyson, heb bwyso'n rhy bell i'r naill gyfeiriad na'r llall.


I gael gostyngeiddrwydd go iawn dim ond ei safon e ddylen ni ei ddefnyddio fel llinyn mesur - a dŷn ni i gyd yn gwybod sut dŷn ni cymharu iddo e.


Mae Rhufeiniaid, pennod 3,adnod 23 yn dweud, "am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw..."


Dŷn ni ddim yn cyrraedd y safon! Dyna ble mae gostyngeiddrwydd - gostyngeiddrwydd go iawn - yn dod i mewn am ein bod yn syrthio'n fyr, fedrwn ni ddim cyrraedd ar ein pennau'n hunain.


Dychmyga fod dy fywyd fel saeth. Mae'r saethwr yn tynnu ar y bwa ac yn rhyddhau tuag at y targed. Safon Duw ar gyfer ein bywydau yw'r targed. Mae'r saeth yn hedfan drwy'r awyr ond yn syrthio'n fyr a ddim yn taro'r targed o gwbwl. Dyna'r Beibl yn ei feddwl pan mae'n dweud ein bod yn syrthio'n fyr.


Y newyddion da ydy fod Duw, yn ei ras llawn cariad yn rhoi Iesu i ni sy'n codi'r saeth a'n helpu i fynd weddill y ffordd. Drwy Iesu gallwn gyrraedd pen y daith ond dŷn ni ei angen e! Mae pob un ohonom ei angen. Does neb gwell. Doe neb gwaeth. Pan mae'n dod i'n gwerth mae e'n ein gweld yn gyfartal. Ynddo e dŷn ni'n gweld ein hunaniaeth go iawn. a dŷn ni'n gwybod pwy ydyn ni, dŷn ni ffeindio ein llwybr a'n pwrpas. y bywyd mae e wedi'i roi i ni i'w gofleidio.


Mae gostyngeiddrwydd go iawn sy'n para yn dod o pan dŷn ni'n cadw'n golwg ar y targed, a ddim ar y saethau eraill.


Arglwydd, helpa fi i gadw fy ngolwg arnat ti ac nid ar beth mae pobl eraill yn ei wneud neu'i ddweud. Mae fy ngwerth, hunaniaeth a chyfeiriad yn dod oddi wrthyt ti, a neb arall. Dw i'n dymuno hunaniaeth go iawn a chalon sy'n dy blesio a'th anrhydeddu. Dangos i mi rannau o'm mywyd dw i'n rhoi gormod o bwyslais iddynt oherwydd balchder neu ansicrwydd a thyrd a fi nôl i'th drefn di.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Break Free From Comparison a 7 Day Devotional by Anna Light

Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnweledi...

More

Hoffem ddiolch i Anna Light (LiveLaughLight) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.livelaughlight.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd